Cyngor Sir Ynys Môn

Fforwm landlordiaid


Mae fforymau blynyddol yn cael eu cynnal er mwyn rhoddi i landlordiaid sector preifat, asiantiaid a phobl broffesiynol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion o ddiddordeb.

Y nod yw darparu llwyfan fel y gall landlordiaid rannu eu profiadau:

  • o osod eiddo, gyda’i gilydd a chyda’r cyngor
  • helpu landlordiaid i ddarparu llety o ansawdd da ym Môn
  • cynyddu ymwybyddiaeth o newidiadau mewn deddfwriaeth, gweithdrefnau a pholisïau ac ymateb i bryderon ac anghenion landlordiaid

Os ydych chi’n landlord neu’n asiant gydag eiddo ar Ynys Môn, ac os hoffech gael eich gwahodd i fforymau yn y dyfodol neu dderbyn diweddariadau ar e-bost am faterion a allai effeithio arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd os gwelwch yn dda.

Byddwn yn trin eich manylion yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac ond yn eu pasio ymlaen i’r adrannau perthnasol yn y cyngor.

Fforwm Landlordiaid 21 Ionawr 2025

Lleoliad

Gweminar ar-lein

Amser

2pm i 3:30pm

Manylion

Ymunwch â ni ar gyfer Gweminar Fforwm Landlordiaid sy’n cael ei gynnal gan Cyngor Sir Ynys Môn ar y cyd â’r NRLA.

Bydd y sesiwn hon yn darparu diweddariadau hanfodol ar Rentu Cartrefi Cymru ac yn ymchwilio i oblygiadau’r Bil Hawliau Rhentwyr ar y sector rhent preifat yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn mynd i’r afael â materion lleol sy’n effeithio ar landlordiaid yn cynnwys y dreth gyngor a diweddariadau eraill gan y cyngor.

Dweud eich dweud

Anfonwch neges e-bost at Sandra Towers sandra.towers@nrla.org.uk er mwyn sicrhau bod eich pryderon yn cael eu cyfarch yn ystod y gweminar.

Sut i gofrestru 

Fe allwch gofrestru ar-lein

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.