Cyngor Sir Ynys Môn

Cymhellion i landlordiaid preifat


Bondiau di-arian (gwarant ysgrifenedig i'r landlord)

Byddai landlord sy'n derbyn telerau'r cynllun bondiau di-arian yn derbyn gwarant gan Gyngor Sir Ynys Môn i dalu am unrhyw ffioedd a ganiateir fel rheol o dan gontract rhent safonol. Gall hyn gynnwys iawndal a chostau glanhau gormodol.

Yswiriant gwarant rhent

Er mwyn denu landlordiaid preifat i gynnig tenantiaethau i bobl sy'n derbyn budd-dal tai, pobl ddigartref neu bobl sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref, bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ad-dalu Landlordiaid Preifat gost yswiriant gwarant rhent. Gellir hawlio am hyd at dair blynedd.

Cynhwysiant ariannol

Y nod yw bod y gwasanaethau cymorth tai yn darparu cyngor ar faterion cynhwysiant ariannol a gallu ariannol  i denantiaid y Sector Rhent Preifat.

Bydd hyn o gymorth i landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd gan y rhoddir cyngor ynghylch materion sy'n effeithio ar sefyllfa ariannol tenantiaid, a hynny cyn i’r sefyllfa gyda’r denantiaeth waethygu a mynd yn argyfwng.

Bydd yn cynnwys cymorth i denantiaid bregus ddefnyddio cyfrif banc, cymorth i drin arian a hefyd i ddelio ag anawsterau ariannol. Cynigir y cymorth am 12 mis cyntaf y denantiaeth, a gallai gynnwys

  • cyngor a chymorth mewn perthynas â materion tai
  • cymorth ôl-ofal am 2 fis gan gynnwys sicrhau (dros y ffôn) bod yr holl drefniadau wedi eu gwneud. Bydd hyn yn cynnwys helpu'r tenant i drefnu'r cyfleustodau ac ati
  • archwilio'r eiddo a gwirio rhestr o'r hyn sydd ar gael yn yr eiddo
  • pecynnau cymorth sy'n gysylltiedig â materion tai ac sydd wedi'u teilwra'n benodol i gwrdd ag anghenion y tenant a'r landlord gan gynnwys swyddog cyswllt yn yr adain budd-dal tai i gyflymu prosesu hawliadau am fudd-dal tai
  • cyrsiau trin arian fel cytundeb cyn tenantiaeth
  • gwirio a yw'r eiddo'n fforddiadwy i'r darpar denantiaid cyn rhoi'r  denantiaeth iddynt

Taliadau unwaith ac am byth

Gellir cynnig taliadau unwaith ac am byth i landlordiaid preifat sy'n barod i osod eiddo am rent sy'n cyfateb i'r gyfradd lwfans tai lleol. Mae yna brinder o landlordiaid preifat yn Ynys Môn sy'n fodlon gwneud hyn.

Mae hyn yn golygu nad yw mwyafrif yr eiddo rhent preifat yn fforddiadwy i'n defnyddwyr gwasanaeth. Er mwyn annog  landlordiaid preifat i osod eiddo am rent sy'n cyfateb i'r gyfradd lwfans tai lleol:

Cymhelliant unwaith ac am byth, sef 12 wythnos o rent, yn seiliedig ar y gyfradd lwfans tai lleol am denantiaeth fyrddaliadol o flwyddyn wedi'i llofnodi, ynghyd â  chymhelliant ychwanegol o 4 wythnos o rent yn seiliedig ar y gyfradd lwfans tai lleol ar ôl dwy flynedd o'r denantiaeth. 

Gwarantu’r rhent am 3 mis

Ni ellir ôl-ddyddio hawliadau budd-dal tai fwy na mis.

Gall hawliadau newydd am fudd-dal tai gymryd mwy na mis i ddod yn weithredol, gan arwain at ddyledion rhent i denantiaid nad oes modd iddynt gwrdd â nhw o ddechrau eu tenantiaethau.

Byddai gwarantu'r hawl budd-dal  rhent am 3 mis yn rhoi tawelwch meddwl i landlordiaid o ddechrau tenantiaethau.

Amodau’r cynnig

Er mwyn i landlordiaid fod yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun rhaid iddynt gytuno i gydymffurfio â’r telerau a'r amodau a restrir isod wrth osod eu heiddo. 

  • gosod yr eiddo am rent sy'n cyfateb i'r lwfans tai lleol (neu  ychydig yn uwch)
  • meddiant gwag
  • prawf perchnogaeth
  • tystysgrifau diogelwch trydanol a diogelwch nwy cyfedol, ynghyd â thystysgrifau perfformiad ynni cyfredol
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni 

 Cysylltwch â (01248) 752200 am wybodaeth bellach