Mae Cynllun Lesio Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan cynghorau lleol.
Ar Ynys Môn, ni, Cyngor Sir Ynys Môn, sy’n rheoli’r cynllun.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi lesio eich eiddo i ni, y cyngor, ac fe gewch sicrwydd o incwm rhent misol didrafferth.
Mae'r cynllun yn amodol ar gymhwysedd ac argaeledd.
Rhaid i unrhyw eiddo yr ydych yn ei lesio i ni fod yn Ynys Môn.
Manteision i berchnogion eiddo yn Ynys Môn
P'un a ydych yn landlord profiadol â sawl eiddo neu wedi dod yn berchen ar eiddo yn ddiweddar, efallai trwy berthynas neu newid amgylchiadau, gallai Cynllun Lesio Cymru fod yn addas i chi.
Datgloi'r buddion
- Incwm rhent gwarantedig didrafferth am hyd y les (ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol) – sy'n golygu na fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent na chyfnodau pan fydd yr eiddo’n wag.
- Grant o hyd at £25,000 i ddod â'r eiddo i safon rhentu.
- Grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddoi.
- Lesoedd rhwng 5 ac 20 mlynedd.
- Archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (ar gyfer traul rhesymol i’r eiddo).
- Rheolaeth lawn o'r eiddo a'r tenant am oes y les.
Cysylltwch â ni
Mae ein Tîm Opsiynau Tai yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu a yw'n addas i chi, gallwn wedyn helpu i'ch tywys drwy’r gweddill.
Cofrestru eich diddordeb gyda'n ffurflen ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Lawrlwythwch daflen wybodaeth
Gallwch lawrlwytho taflen wybodaeth.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.