Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Benthyciadau ar gyfer Gwella Tai i Berchenogion Tai


Llywodraeth Cymru - Cynllun Benthyciadau ar gyfer Gwella Tai i Berchenogion Tai

Mae’r Benthyciadau ar gyfer Gwella Tai sy’n cynnig cymorth ariannol i berchenogion tai preifat, yn cynnwys landlordiaid eiddo lle mae tenantiaid.

Mae’r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn galluogi’r Cyngor i roi benthyciadau di-log i berchenogion eiddo sydd angen eu hatgyweirio neu eu huwchraddio er mwyn eu gwneud yn gynnes, yn saff ac yn ddiogel.

Mae’r cynllun wedi ei dargedu at bobl sy’n cwrdd â meini prawf fforddiadwyedd y cynllun ond a fydd efallai’n cael eu cyfyngu rhag cael at ffynonellau eraill o gyllid. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y daflen ar y Cynllun isod.

I gael eich ystyried ar gyfer y Cynllun, a fyddech cystal a llenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb os gwelwch yn dda.

Fel arall, i gael gwybodaeth bellach ac i drafod y cynlluniau sydd gennych ar gyfer yr eiddo yn fanylach, cysylltwch gyda’r Tîm Tai Gwag ar 01248 752301/01248 752283 neu drwy anfon e-bost i swyddogtaigwag@ynysmon.llyw.cymru

Sylwer fod y benthyciad yn ddewisol ac nad oes modd rhoi sicrwydd y caniateir benthyciad hyd oni fydd yr ymgeisydd wedi derbyn rhybudd cymeradwyo swyddogol. 

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.