Y gyfraith
Mae’n drosedd bod yn berchen, neu fod â chi sydd wedi’i restru o fewn Deddf Cŵn Peryglus 1991 yng Nghymru a Lloegr, oni bai bod gennych Dystysgrif Eithrio ddilys.
Mae’r Ddeddf yn berthnasol i bum math o gi:
- XL Bully
- Pit Bull Terrier
- Japanese Tosa
- Dogo Argentino
- Fila Brasileiro
Mae Deddf Cŵn Peryglus 1991 yn golygu ei bod yn anghyfreithlon i unrhyw un sy’n berchen, neu sydd ag un o’r cŵn hyn, i:
- werthu’r ci
- gadael y ci, neu adael iddo grwydro
- rhoi’r ci i rywun
- bridio un o’r cŵn rhestredig, neu fridio o’r ci
- bod mewn man cyhoeddus â’r ci heb dennyn a mwsel
Tenantiaid Tai Môn
Gwneud cais am dŷ cymdeithasol
Mae ein ffurflen gais am dŷ wedi’i haddasu fel ei bod yn fandadol bod ymgeiswyr yn cadarnhau beth yn union yw brîd unrhyw anifail fydd yn byw yn y tŷ.
Os byddwch yn gwneud cais am dŷ cymdeithasol, ac rydych wedi nodi ar eich cais eich bod yn berchen, neu mae gennych gi sydd wedi’i restru dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, bydd rhaid dangos y Dystysgrif Eithrio fel rhan o’ch cais er mwyn hawlio lle ar y gofrestr dai.
Bydd eich cais yn dangos statws ar y gweill (pending) nes eich bod yn dangos y Dystysgrif Eithrio. Bydd eich cais yn cael ei ganslo pe nad fyddech yn dangos y dystysgrif i ni o fewn yr amser a ganiateir.
Bydd Ymgeiswyr am Dŷ sy’n berchen ar unrhyw frîd o gi dan y Ddeddf Cŵn Peryglus ond yn cael eu hystyried am lety pan fydd yr eiddo sy’n cael ei ystyried yn cynnwys:
- drws ffrynt ei hun a gardd wedi’i chau â ffensys chwe throedfedd (h.y. dim mewn fflatiau yn rhannu mynedfa gymunedol, grisiau na gerddi cymunedol)
- bydd cadarnhad yn cael ei roi gan Reolwr ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Ni fydd y Gwasanaethau Tai yn gosod y ffensys.
Tenantiaid presennol
Gofynnir i denantiaid presennol ddangos Tystysgrif Eithrio os nad oes un gennym.
Mae’n rhaid darparu copi o’r dystysgrif i ni, i ddangos eich bod yn cydymffurfio gyda’r gyfraith.
Byddwn yn eich adrodd i’r heddlu pe na fyddech yn dangos Tystysgrif Eithrio.
Os byddwch yn torri'r gyfraith
Os darganfyddir fod unrhyw gwsmer wedi torri’r gyfraith, byddant yn cael eu cyhuddo o drosedd.
Gall hyn arwain at ddirwy ddiderfyn, cyfnod yn y carchar a/neu fod eich chi yn cael ei atafaelu a’i ddifa. Os ceir unrhyw gwsmer yn euog o drosedd yna bydd gweithredoedd tenantiaeth a’ch addasrwydd ar gyfer cael cadw anifeiliaid yn y dyfodol yn cael ei ystyried.
Sut i gwyno am gi peryglus
Dylid cyfeirio pob cwyn at yr heddlu er mwyn iddynt allu ymchwilio a yw’r perchennog yn cadw at y gyfraith.
Er enghraifft, os byddwch yn gweld ci peryglus heb fwsel neu oddi ar dennyn yn gyhoeddus neu os ydych yn bryderus fod ci yn beryglus neu’n ymddwyn yn ffyrnig, pa bynnag frîd ydyw, dylech ddweud wrth yr heddlu.
Os ydych yn bryderus am greulondeb neu esgeulustod unrhyw anifail, dylech hysbysu’r RSPCA am hyn.
Eich cyfrifoldebau os ydych yn berchen ar anifail anwes
- Chi sy’n gyfrifol am ofalu am eich anifail anwes.
- Ni ddylent grwydro heb oruchwyliaeth, ni ddylent fod yn niwsans i gymdogion na baeddu mewn unrhyw ardaloedd cymunedol nac eiddo arall, yn cynnwys gerddi sy’n cael eu rhannu.
- Rhaid cadw pob anifail o dan reolaeth ac ar dennyn (os yn briodol ar gyfer yr anifail hwnnw).
- Caniateir anifeiliaid mewn ardaloedd cymunedol/a rennir er mwyn cael mynediad i’ch eiddo yn unig.
- Rhaid cadw anifeiliaid anwes o dan reolaeth pan fydd ein staff, asiantau neu gontractwyr yn ymweld â’r eiddo.
- Oherwydd nifer o anafiadau difrifol i weithwyr, efallai y byddwn yn gofyn i gŵn gael eu cadw tu ôl i ddrws wedi’i gau mewn ystafell arall cyn i ni gyrraedd. Fel arall, ni fyddwn yn gallu cyflawni unrhyw waith. Bydd hyn hefyd yn cynorthwyo eich anifeiliaid i beidio â chynhyrfu gan ein bod yno.
- Os oes gennych ardd, rhaid i chi gadw’r terfyn(au) yn ddiogel er mwyn stopio eich anifeiliaid anwes rhag dianc.
- Rhaid i chi wneud yn siŵr nad yw eich anifail anwes yn difrodi ein heiddo. Os bydd unrhyw ddifrod yn digwydd, efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a allai olygu y gallech golli eich cartref.
- Ni chaniateir bridio masnachol o eiddo.