Mae cadw eich tŷ mewn cyflwr da yn bwysig i ni. Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau gwybodaeth isod yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni.
Gollyngiad nwy
Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng yn yr eiddo, trowch eich teclyn a'ch cyflenwad nwy i ffwrdd a chysylltwch â Wales and West Utilities ar 0800 111 999
Sut mae gwneud cais am waith trwsio
Mae nifer o ffyrdd i roi gwybod am atgyweiriad i'ch eiddo cyngor neu ardal gymunedol (os ydych chi'n byw mewn bloc o fflatiau). Gallwch:
- ffonio'r Atgyweiriadau Tai ar 08081 68 56 52 rhwng 8:45am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- ysgrifennu at y Rheolwr Cynnal a Chadw, Gwasanaethau Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW
- e-bostio trwsiotai@ynysmon.llyw.cymru
Tu allan i oriau
Dim ond mewn achosion brys y dylech wneud hynny neu fel arall codi’r tâl arnoch.
Gyda'r nos (5pm i 8:45am o ddydd Llun i ddydd Gwener), penwythnosau a chyfnodau gwyliau statudol:
- ffoniwch y gwasanaeth Atgyweiriadau Tai y tu allan i oriau ar y prif gyswllt 08081 68 56 52 neu defnyddiwch 0300 123 6688
Mae arnom angen cymaint o wybodaeth â phosibl
Mae angen i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt
- bydd e-bostio ffotograffau o'r mater yn helpu i wneud diagnosis o'r gwaith trwsio a gall gynilo ar Arolygiad felly helpu i gwblhau'r gwaith y gofynnwyd amdano yn gyflymach
- yr hyn rydych chi'n credu yw'r broblem mor fanwl â phosibl, lle mae angen y gwaith trwsio a pha mor ddifrifol ydych chi'n meddwl ydyw
- pan hoffech apwyntiad
- ni fydd staff yn gallu mynd i mewn i'ch cartref os oes plant heb oruchwyliaeth yn bresennol
Chi sy’n gyfrifol am waith cynnal a chadw cyffredinol ar eich cartref. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw namau neu ddifrod i’ch cartref neu ardaloedd cyffredin.
Rydych chi’n gyfrifol am y rhan fwyaf o fân waith trwsio ar eich cartref, a allai gynnwys:
- addurno tu mewn eich cartref
- plygiau trydan
- ffiwsys a bylbiau golau
- seddi a chaeadau toiled
- dolenni a chloeon
- plygiau a chadwyni mewn baddonau a sinciau
- gwaith plymio ar gyfer peiriant golchi dillad a gosod y peiriant
- cawodydd na chafodd eu gosod gennym ni
- popty
- teils llawr, teils wal a theils ar y lle tân
- mân waith trwsio ar gypyrddau a droriau cegin
- craciau bychan yn y plastr
- rhyddhau ffenestri sydd wedi mynd yn sownd ar ôl eu paentio ar y tu mewn
Mae cyfrifoldeb arnom ni a chithau i edrych ar ôl eich cartref. Rydym eisiau cynnal eich cartref yn y cyflwr gorau posib, ac rydym yn dibynnu arnoch chi i roi gwybod am unrhyw waith trwsio sydd angen ei wneud cyn gynted â phosib ac i ganiatáu i ni gael mynediad i’ch cartref i wneud y gwaith angenrheidiol. Byddwn yn gwneud unrhyw waith trwsio yn unol ag Amserlen Blaenoriaeth y Gwasanaeth Trwsio, a lle bynnag y bo’n bosib, byddwn yn cynnig apwyntiad ar gyfer gwneud y gwaith.
Mae eich Cytundeb Tenantiaeth yn dweud wrthych ein bod yn gyfrifol am gynnal a chadw strwythur a thu allan eich cartref. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd cyffredin, a’r gosodiadau a’r ffitiadau a ddarparwyd gennym.
Mae strwythur eich cartref yn cynnwys:
- draeniau, gwteri a phibellau allanol
- y to, waliau allanol, drysau allanol, silffoedd ffenestri, dolenni ffenestri a fframiau ffenestri
- waliau mewnol, lloriau mewnol (ac eithrio gorchuddion llawr), nenfydau, drysau mewnol, fframiau drws mewnol, colfachau drws a byrddau sgyrtin
- simneiau, cyrn simnai a ffliwiau
- y prif lwybr mynediad
- gwaith plastro mawr/sylweddol
- garejys a storfeydd sy’n sownd i’r eiddo
Rydym yn gyfrifol am osodiadau cynhesu dŵr, offer glanweithdra, ac am y cyflenwad dŵr, trydan, nwy a draeniau tu mewn i’ch tŷ.
Mae hyn yn cynnwys:
- basnau ymolchi, sinciau, baddonau, toiled, systemau fflysio a phibellau gwastraff
- cawodydd a osodwyd gennym ni
- gwifrau trydan, gan gynnwys socedi a switshis, gosodiadau golau (ac eithrio bylbiau)
- pibellau nwy, pibellau dŵr, gwresogyddion dŵr, gwresogyddion, tanau wedi eu gosod a systemau gwres canolog
Rydym yn gyfrifol am rywfaint o waith trwsio tu allan i’ch cartref, gan gynnwys ardaloedd cyffredin mewn blociau o fflatiau neu ar stadau, lifftiau, ffonau mynediad ar ddrysau a phibellau cario sbwriel (waste chutes).
Mae’r Gwasanaeth Trwsio yn cynnig apwyntiad i gwsmeriaid ar gyfer unrhyw waith nad yw’n waith mewn argyfwng / ar frys, os oes angen cael mynediad i’r eiddo.
Mae apwyntiadau’n cael eu cynnig yn ystod yr amseroedd canlynol, ar ffurf apwyntiad bore neu brynhawn:
- 8am i 4pm dydd Llun i ddydd Iau a 8am i 3.30pm ar ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)
- gellir trefnu apwyntiadau i osgoi amseroedd danfon a chasglu plant o’r ysgol
O dan amgylchiadau arbennig, efallai y byddwn yn cynnig apwyntiadau tu allan i oriau gwaith arferol
Trefnir apwyntiadau ar gyfer yr holl geisiadau am waith trwsio cymeradwy yn unol ag Amserlen Flaenoriaeth y Gwasanaeth Trwsio.
Ar adegau, cyn trefnu gwaith trwsio, efallai y bydd rhaid i archwiliwr technegol ymweld â’r eiddo i asesu eich cais am waith trwsio.
Gofynnwn yn garedig, pan drefnir apwyntiadau, bod mynediad yn cael ei ddarparu i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i’ch cais am waith trwsio a delio ag o’n brydlon.
Apwyntiadau a gollwyd
Mae apwyntiadau a fethir yn gostus i’r cyngor o ran amser ac arian. Os na fydd modd cael mynediad ar gyfer apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw, bydd cerdyn yn cael ei adael i ddangos bod gweithiwr wedi galw ac yn eich cynghori i gysylltu â’r tîm Gwasanaeth Cwsmer Trwsio i drefnu apwyntiad arall.
Gallai methu â darparu mynediad ar gyfer unrhyw waith trwsio cymeradwy a drefnwyd ymlaen llaw arwain at ganslo’r archebion gwaith.
Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni
Gyda diogelwch y cartref mewn golwg, rydym yn sicrhau bod ein holl staff a chontractwyr cymeradwy yn cario cardiau adnabod.
Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gael gweld eu cardiau adnabod bob amser cyn gadael neb i mewn i’ch cartref. (Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r llinell drwsio yn ystod oriau swyddfa).
Ni all Swyddogion Trwsio Tai neu weithwyr ddod i mewn i’ch cartref i wneud gwaith trwsio oni bai bod rhywun yno gyda nhw, neu os oes plant yno nad ydynt yn cael eu goruchwylio gan oedolyn.
Dywedwch wrthym os ydych angen cymorth i symud dodrefn er mwyn gwneud y gwaith trwsio. Rydym yn annog tenantiaid i symud eu dodrefn eu hunain lle bo modd. Fodd bynnag, dan amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio helpu.
Dan amgylchiadau eithriadol, os ydym yn meddwl bod argyfwng yn eich eiddo, byddwn yn mynd i mewn i’ch cartref ar unwaith, gan y gallai unrhyw oedi eich rhoi chi a’ch cymdogion mewn perygl.
Bydd y Cyngor yn gwneud rhywfaint o waith trwsio tu allan i oriau gwaith. Fodd bynnag, gan y gall y gwaith trwsio hwn olygu costau ychwanegol, dim ond gwaith a ddynodir yn Waith Trwsio Blaenoriaeth 1 fydd yn cael ei wneud.
Cysylltwch â’r llinell Drwsio ar 08081 68 56 52 i roi gwybod am waith Trwsio mewn Argyfwng/ar frys tu allan i oriau. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i’n Gwasanaeth Cefnogi Tu Allan i Oriau, a fydd yn asesu eich cais ac yn eich cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael.
Mae’r gwasanaeth tu allan i oriau yn gweithredu rhwng
5pm i 8.45am dydd Llun i ddydd Gwener
5pm dydd Gwener i 8.45am dydd Llun (gan gynnwys yr holl wyliau statudol)
Cyn i chi ffonio’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau i roi gwybod am bryder ynghylch methiant yn y system wresogi neu drydanol, sicrhewch bod cyflenwad tanwydd ar gael, a bod y gwasanaethau nwy/olew a thrydan wedi eu troi ymlaen, gan y gellir codi am unrhyw alwadau tu allan i oriau oherwydd diffyg cyflenwad.
Gollyngiad nwy
Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng yn yr eiddo, diffoddwch eich offer a’ch cyflenwad nwy a chysylltwch â Wales and West Utilities ar unwaith ar 0800 111 999
Codir tâl arnoch am waith trwsio ar eich cartref, i gyfleusterau cyffredin/cymunedol neu ardaloedd allanol o ganlyniad i esgeulustod neu ddifrod damweiniol neu fwriadol a achoswyd gennych chi, aelodau eich teulu, ymwelwyr, anifeiliaid anwes neu gontractwyr a gyflogwyd gennych.
Cyfeirir at hyn fel Gwaith Trwsio y Codir Amdano
Os oedd y difrod yn ddamwain
Rydych yn gyfrifol am unrhyw ddifrod damweiniol. Dylech holi eich cwmni yswiriant gan y gallech o bosib hawlio cost trwsio’r difrod hwn yn erbyn eich yswiriant cynnwys tŷ.
Diogelwch eich cartref
Rydych yn gyfrifol am ddiogelwch eich cartref. Os oes angen gwneud gwaith trwsio oherwydd camddefnydd, esgeulustod neu ddiofalwch, byddwn yn gwneud yr eiddo’n ddiogel os oes angen, a byddwch yn codi arnoch am y gwaith hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys costau’n gysylltiedig â newid cloeon neu allweddi/ffobiau a gollwyd neu a gafodd eu dwyn.
Mae Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel a gwarchod llesiant yr holl drigolion.
Os bydd yr heddlu'n gweithredu gwarantau sy'n gysylltiedig â chyffuriau mewn eiddo'r cyngor, y tenant sy'n gyfrifol, a bydd rhaid iddo dalu am gost drws newydd, ynghyd â chost atgyweirio unrhyw ddifrod arall a achosir i eiddo'r cyngor yn ystod y warant. Mae hyn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu ac nad yw cost ymddygiad troseddol yn cael ei throsglwyddo i drigolion eraill.
Eich pryderon ynghylch gweithgaredd sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar ystâd gyngor
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch gweithgaredd sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar unrhyw ystâd y cyngor, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01248 752200.
Gallwch hefyd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 i roi gwybod am achosion nad ydynt yn argyfwng, neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng.
Rhannu gwybodaeth yn ddienw
Gallwch hefyd rannu gwybodaeth yn ddienw drwy gysylltu â Crime Stoppers drwy ffonio 0800 555 111 neu drwy gyflwyno adroddiad dienw ar eu gwefan.
Cyn gwneud unrhyw waith, mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd i wneud addasiadau neu welliannau i’ch cartref.
Bydd yr holl waith a wneir gan gwsmeriaid yn cael ei archwilio, a rhaid iddo gael ei gwblhau i safon yr ydym yn fodlon ag o. Gellir codi arnoch am waith diffygiol y mae’n rhaid gwneud gwaith adfer i’w gywiro.
Yn achos gwaith nwy a gwaith trydanol, rhaid gwneud y gwaith i safonau Gas Safe a NICEIC, a rhaid cael tystysgrifau gan y sawl a wnaeth y gwaith.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Trwsio a Chynnal a Chadw sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i’n tenantiaid.
Mae’r safonau gwasanaeth isod yn dweud wrthych yr hyn y gallwch ddisgwyl ei dderbyn os ydych yn cysylltu â ni i roi gwybod am waith trwsio:
- byddwn yn cynnig nifer o wahanol ffyrdd i chi roi gwybod am waith trwsio y mae angen ei wneud
- efallai y bydd galwadau ffôn i’r ganolfan alwadau yn cael eu recordio a’u defnyddio i bwrpas monitro a hyfforddi
- bydd swyddogion sy’n delio gyda’r gwaith trwsio yn dilyn Siarter Gofal Cwsmer yr adran
- byddwn yn cynnig apwyntiad ar gyfer gwneud y gwaith trwsio os yw hynny’n bosib
- bydd gwaith trwsio yn cael ei wneud gan uned Cynnal a Chadw Tai’r Cyngor a/neu gontractwyr cymeradwy a fydd yn dilyn ein côd ymddygiad
- ein nod yw cwblhau’r gwaith trwsio yn ystod yr ymweliad cyntaf. Os nad oes modd gwneud hynny, byddwn yn gadael i chi wybod sut mae’r gwaith trwsio’n datblygu, gan gynnwys pan fyddwn yn disgwyl am bartiau newydd
- ein nod yw archwilio sampl o 10% o’r gwaith trwsio i sicrhau bod y gwaith wedi cael ei wneud i’r safon ddisgwyliedig
- bydd cwsmeriaid yn cael cyfle i gwblhau arolwg Boddhad Cwsmer mewn perthynas ag ansawdd y gwaith a’r gofal cwsmer