Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Cefnogaeth Tasgmon


Mae’r Cynllun Tasgmon yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan Wasanaethau Tai Môn i gefnogi ein tenantiaid gyda mân dasgau o amgylch y tŷ.

Pwy all ddefnyddio'r cynllun

Rydych yn gymwys os ydych unai:

  • yn 70 oed neu’n hŷn
  • Wedi’ch cofrestru’n anabl, yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl cyfradd gofal neu symudedd uwch, Taliadau Annibyniaeth Personol estynedig neu Lwfans Presenoldeb

Beth gall Tasgmon helpu chi hefo

Mae’r cynllun wedi’i gynllunio ar gyfer mân dasgau y gellir eu cwblhau o fewn yr amser a ddyrannwyd i chi.

Enghreifftiau’n cynnwys:

  • gosod polion i hongian llenni
  • gosod set toiled
  • gosod silffoedd
  • hongian lluniau
  • rhoi dodrefn at ei gilyddneu eu tynnu o’i gilydd
  • gwaith paentio bach

Sut i drefnu apwyntiad

Gallwch archebu apwyntiad tasgmon yn yr un modd ag y byddwch yn trefnu atgyweiriad tai. Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn trafod manylion eich cais yn fanylach.

Gwybodaeth bellach

Beth fydd Tai Môn yn ei ddarparu

  • Llafur yn unig – yn cael ei wneud gan un o'n gweithwyr atgyweirio a chynnal a chadw aml-sgil cymwys.
  • Bydd gweithwyr yn dod â'u hoffer a'u nwyddau traul sylfaenol eu hunain (sgriwiau, plygiau wal, seliwr, tâp masgio, brwsys/rholeri paent ac ati)

Noder:

  • gall pob aelwyd ddefnyddio slotiau fesul awr hyd at 4 awr o gefnogaeth bob 12 mis. Byddwn yn cadarnhau'r amser slot ar gyfer eich gwaith gofynnol gyda chi.
  • rhaid i denantiaid gyflenwi eu paent eu hunain ar gyfer pob gwaith peintio ac addurno.
  • nid yw tirlunio meddal wedi’i gynnwys (er enghraifft torri glaswellt, tocio gwrychoedd, plannu)

Adnabod a diogelwch

Gellir adnabod ein gweithwyr gan eu Bathodyn Adnabod swyddogol, gwisg y cyngor a cherbydau. Os ydych yn ansicr, gofynnwch am weld eu dogfen adnabod neu ffoniwch 0808 168 5652 i gadarnhau.

Peidiwch byth â gadael i unrhyw un ddod i mewn i'ch cartref os ydych chi'n amau ​​​​ohonyn nhw.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Byddwn yn trafod mewn mwy o fanylder â chi pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad Tasgmon.

Bydd y cyngor yn darparu llafuryn unig.

Fodd bynnag, fel rheol bydd einstaff sy’n gwneud y gwaith yn cario pethau megis sgriwiau, hoelion, plygiau wal, seliwr ac ati.

Byddant hefyd yn cario tŵls efo nhwer mwyn gallu gwneud y gwaith. Eich cyfrifoldeb chi fydd darparu’r deunyddiau megis y silffoedd, cabinet, sedd toiled,polion i hongian llenni, paent ac ati.

Mae hwn am ddim i denantiaid cymwys y cyngor.

Bydd eich apwyntiad tasgmon yn cael ei gyflawni gan un o’n gweithwyr cynnal a chadw cymwys.

Byddwch yn gallu adnabod einstaff drwy eu gwisg, cerbydau a bathodynnau adnabod sydd i gyd yn cynnwys logo'r cyngor.

Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gael gweld eu cerdyn adnabod neu ffoniwch08081685652 am gadarnhad er mwyn tawelu eich meddwl.

Peidiwch â gadael unrhyw un yr ydych yn amheus ohonynt i mewn i’ch cartref.