Eich cartref, eich llais
Darganfyddwch y nifer o ffyrdd y gallwch chi ddweud eich dweud a chymryd rhan o fewn gwasanaethau tai.
Rydym am i chi gymryd rhan cymaint â phosibl gan fod hyn yn ein helpu i wella sut mae ein gwasanaethau'n cael eu rhedeg ac yn gwneud ein cartrefi a'n cymunedau yn ardaloedd gwell i fyw ynddynt.
Mae 'cyfranogiad tenantiaid' yn golygu cydweithio, fel tenantiaid a landlordiaid, i wneud ein gwasanaethau tai yn well.
Rydym am glywed eich syniadau a'ch barn ar bolisïau tai, amodau a'r gwasanaethau a ddarparwn.
Gall eich mewnbrwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Mae'n dda cymryd rhan
Pan fyddwch yn cymryd rhan, mae o fudd i chi ac i ni.
Fel tenantiaid, mae gennych gyfle i gwrdd â phobl newydd, magu hyder, a dysgu sgiliau newydd. Mae gennych chi hefyd y pŵer i ddylanwadu ar welliannau i wasanaethau a'n helpu ni ddeall yr hyn rydych chi ei esiau a'i angen.
I ni, fel eich landlord, mae eich cyfranogiad yn ein helpu i wella ein gwasanaethau, gan arwain at denantiaid hapusach a llai o gwynion. Mae hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy tryloyw ac atebol yn ein gwaith.
Manteision cyfranogiad tenantiaid
Buddion tenantiaid
- Cyfle i gyfarfod pobl newydd ac i ddatblygu eich hyder.
- Cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i wella eich gwybodaeth.
- Gallwch ddylanwadu ar welliannau gwasanaeth a gwneud gwahaniaeth.
- Gallwch ein helpu ni i ddeall pa wasanaethau mae tenantiaid yn dymuno ei cael a gwella gwasanaethau.
Buddion Landlordiaid:
- Helpu i wella bodlonrwydd tenantiaid a gwasanaethau.
- Gwell bodlonrwydd tenantiaid yn arwain at lai o gwynion.
- Helpu i rannu gwybodaeth ac i fod yn agored ac yn atebol.
- Helpu i ddeallt pa wasanaethau sydd eu hangen a lle i dargedu adnoddau.
Sut allwch chi gymryd rhan
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chwarae eich rhan a hynny o lefel isel i lefel uchel.
Lefel isel
- Mynychu sioe deithiol tai.
- Cymryd rhan mewn diwrnod glanhau cymunedol.
- Cymryd rhan mewn prosiect amgylcheddol.
- Gwneud cais am y Gronfa Gwella Amgylcheddol a Chymunedol.
- Cymryd rhan mewn prosiect rhwng cenedlaethau.
- Cwblhewch holiadur neu arolwg boddhad o gysur eich cartref eich hun.
Lefel canolig
- Cyfarfodydd tenantiaid anffurfiol bob hyn a hyn.
- Cymryd rhan mewn Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
- Ymunwch â'r Grŵp Cyhoeddiadau Tenantiaid.
- Ymunwch â Grŵp Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr.
- Mynychu Fforwm Tai Gwarchod.
Lefel uchel
- Cymryd rhan yn aml mewn cyfarfodydd a gweithgareddau.
- Dod yn archwiliwr tenantiaid.
- Ymunwch â Fforwm Atgyweirio a Chynnal a Chadw.
- Ymunwch â'r Fforwm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB).
- Ymunwch â'r Fforwm Digidol.
- Ymunwch â'r Panel Monitro.
Cefnogaeth
Mae cefnogaeth ar gael i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan.
Byddwn yn:
- darparu cludiant i ac o gyfarfodydd
- darparu gofal plant
- darparwch unrhyw hyfforddiant angenrheidiol - mae hyn yn cynnwys cyrsiau achrededig a heb eu hachredu
Os hoffwch ragor o wybodaeth am y gwahanol opsiynau, cysylltwch â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid.
Ffôn: 01248 752 200
E-bost: tenantstenantiaid@ynysmon.llyw.cymru
Llio Rowlands, Uwch Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid
Nikki Jones, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid
Lucy Kelly, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid