Cefndir
Os ydych yn denant neu’n lesddeiliad gyda Cyngor Sir Ynys Môn gallwch wneud cais am arian o’r Gronfa Gwella’r Amgylchedd a Chymunedau sy’n caniatáu i chi ymgeisio am arian grant hyd at £5,000 ar gyfer prosiectau amgylcheddol i wneud eich cymuned yn lle mwy diogel, taclus a braf i fyw ynddo.
Dim ond unwaith y flwyddyn bydd cyfle i rhoi cais i mewn am arian grant. Os byddwch yn llwyddianus yn derbyn y grant, bydd angen gweithio’n agos gyda’ch Cymuned a’r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid y Gwasanaeth Tai. Ar ol derbyn y grant i’ch cymuned, nid oes modd rhoi cais arall am 2 flynedd.
Gwneud cais
Mae'r broses ymgeisio yn agor ar 1 Ionawr bob blwyddyn.
Dychwelwch yr ffurflen cais wedi ei gwblhau yn gyfa at sylw’r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid erbyn hanner dydd 31 Mawrth.
Ni fydd unrhyw cais hwyr na cheisiadau heb eu gwblhau yn llawn yn cael eu hystyried yn anffodus.
Fedrwch chi yrru’r ffurflen gais drwy ebost at: tenants@ynysmon.gov.uk neu eu postio i:
Tim Cyfranogiad Tenantiaid
Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn
Prif Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Bydd y Panel Amgylcheddol, sef panel cymysg o swyddogion tai a cynrychiolwyr tenantiaid y cyngor, yn cyfarfod o fewn mis Ebrill ar gyfer asesu’r ceisiadau.
Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen hon.
Prosiect cymunedol sy’n elwa cymaint o denantiaid a phrydleswyr a phosibl.
Noder fod y prosiectau hyn ar gyfer ardaloedd cymunedol yn unig ac nid ar gyfer eiddo/gerddi unigol.
Rhai awgrymiadau am gynlluniau posibl
Tirlunio
Unrhyw le a fyddai’n elwa o blannu llwyni i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau ac i wella bywyd gwyllt lle y gallai’r gymuned wedyn eu cynnal a’u cadw.
Clirio safle
Cael gwared ar isdyfiant er mwyn gwneud i’r ardal edrych yn fwy taclus ac er mwyn ei gwneud yn fwy diogel.
Llwybrau
Gwella mynediad i adeilad.
Ffensys
Unrhyw newidiadau bach a fyddai’n gwella diogelwch y gymuned.
Goleuadau
Ar adeilad neu mewn ardal dywyll a fyddai’n gwneud i’r bobl leol deimlo fwy diogel.
Arwyddion
Er mwyn ei gwneud hi’n haws i ymwelwyr ddod o hyd i chi.
Ailgylchu
Lle byddai ail-leoli neu gosod ardal benodol yn helpu i gadw’r stad yn fwy taclus ac i wneud ailgylchu yn haws.
Rhaid i gais ddweud wrthom:
- Am eich syniad neu eich prosiect arfaethedig a beth yr ydych yn feddwl sydd angen ei wneud.
- Sut bydd yn gwella eich cymdogaeth.
- Pam fydd eich cymuned yn elwa.
- Sut yr aethoch o’i chwmpas hi i siarad am y rhai hynny a effeithiwyd gan eich cais.
- Pwy sy’n cefnogi’r prosiect.
- Sut gall eich cymuned barhau i gefnogi’r prosiect unwaith y bydd wedi’i gwblhau.
- Amcan bris o faint y bydd eich prosiect yn ei gostio. Darperwch 3 amcan bris gan wahanol gyflenwyr os yw’r dyfynbris cyntaf dros £3,000.
- Llofnodion gan o leiaf 80% o’r tenantiaid a’r trigolion yn cytuno i’r gwaith arfaethedig.
Bydd tenantiaid y cyngor, lesddeiliaid neu gynrychiolwyr cymunedol yn gallu gwneud cais y grant o 1 Ionawr tan 31 Mawrth bob blwyddyn.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, ni fydd eich stad yn gallu ymgeisio eto am ddwy flynedd.
Mae tri cam:
Cam 1
- Bydd ceisiadau wedi eu cwblhau yn cael eu cyflwyno i adran tai y cyngor.
- Bydd y Panel Amgylcheddol, sy’n gymysgedd o denantiaid a swyddogion tai yn asesu’r ceisiadau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni’r canllawiau.
- Bydd y rhai hynny sy’n bodloni’r canllawiau wedyn yn mynd ymlaen i’r cam nesaf.
Cam 2
- Bydd swyddog tai, archwiliwr technegol a chynrychiolydd tenant yn ymweld â phob prosiect arfaethedig ac yn gwneud siŵr nad oes unrhyw broblemau technegol wrth gyflawni’r cynllun.
- Bydd y Panel Amgylcheddol yn cyfarfod eto ac yn cadarnhau pa brosiectau fydd yn mynd yn eu blaenau.
- Unwaith bydd penderfyniadau wedi eu gwneud, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am y penderfyniad drwy lythyr neu e-bost.
Cam 3
- Bydd yr holl geisiadau llwyddiannus yn cael eu cyflawni gan gontractwyr a roddodd y dyfynbris gorau am y gwaith a byddant yn cael eu goruchwylio gan y Tîm Cyfranogiad Tenantiaid.
- Ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd y Panel Amgylcheddol yn ymweld er mwyn gwneud yn siŵr bod y prosiect wedi ei gwblhau.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.