Cyngor Sir Ynys Môn

Cwn XL Bully (gwybodaeth i denantiaid y cyngor)


Y gyfraith

Mae’n drosedd bod yn berchen ar gi XL Bully neu fod yn eich meddiant yng Nghymru a Lloegr oni bai bod gennych Dystysgrif Eithrio ddilys.

Mae hefyd yn drosedd i:

  • werthu ci XL Bully
  • gadael ci XL Bully neu adael iddo grwydro
  • rhoi ci XL Bully i ffwrdd
  • bridio o gi XL Bully
  • bod â chi XL Bully yn gyhoeddus heb fei od ar dennyn a chanddo fwsel

Mae amodau ar gyfer cadw XL Bully yn cynnwys:

  • microsglodynnu'r ci (microchipping)
  • ei gadw ar dennyn a sarnu eich ci yn gyhoeddus
  • ysbaddu'r ci

Os byddwch yn torri'r gyfraith

Os darganfyddir fod unrhyw gwsmer wedi torri’r gyfraith, byddant yn cael eu cyhuddo o drosedd.

Gall hyn arwain at ddirwy ddiderfyn, cyfnod yn y carchar a/neu fod eich chi yn cael ei atafaelu a’i ddifa. Os ceir unrhyw gwsmer yn euog o drosedd yna bydd gweithredoedd tenantiaeth a’ch addasrwydd ar gyfer cael cadw anifeiliaid yn y dyfodol yn cael ei ystyried.

Sut i gwyno am XL Bully neu gi peryglus

Dylid cyfeirio pob cwyn at yr heddlu er mwyn iddynt allu ymchwilio a yw’r perchennog yn cadw at y gyfraith.

Er enghraifft, os byddwch yn gweld ci XL Bully heb fwsel neu oddi ar dennyn yn gyhoeddus neu os ydych yn bryderus fod ci yn beryglus neu’n ymddwyn yn ffyrnig, pa bynnag frîd ydyw, dylech ddweud wrth yr Heddlu. 

Os ydych yn bryderus am greulondeb neu esgeulustod unrhyw anifail, dylech hysbysu’r RSPCA am hyn.

Tenantiaid Tai Môn sy’n berchen ar XL Bully

Bydd gofyn i denantiaid ofyn am ganiatâd ysgrifenedig i gael cadw ci yn eu heiddo.

Rhaid iddynt ddarparu ni â chopi o’r Dystysgrif Eithrio, er mwyn dangos eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith. Bydd y rhai nad ydynt yn darparu hyn yn cael eu cyfeirio at yr Heddlu.

Fel busnes, byddwn yn ystyried yr holl geisiadau ar sail unigol a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Reolwr Tîm Cymdogaeth gan ystyried hanes y denantiaeth a’r math o eiddo.  

Eich cyfrifoldebau os ydych yn berchen ar anifail anwes

  • Chi sy’n gyfrifol am ofalu am eich anifail anwes.
  • Ni ddylent grwydro heb oruchwyliaeth, ni ddylent fod yn niwsans i gymdogion na baeddu mewn unrhyw ardaloedd cymunedol nac eiddo arall, yn cynnwys gerddi sy’n cael eu rhannu.
  • Rhaid cadw pob anifail o dan reolaeth ac ar dennyn (os yn briodol ar gyfer yr anifail hwnnw).
  • Caniateir anifeiliaid mewn ardaloedd cymunedol/a rennir er mwyn cael mynediad i’ch eiddo yn unig.
  • Rhaid cadw anifeiliaid anwes o dan reolaeth pan fydd ein staff, asiantau neu gontractwyr yn ymweld â’r eiddo.
  • Oherwydd nifer o anafiadau difrifol i weithwyr, efallai y byddwn yn gofyn i gŵn gael eu cadw tu ôl i ddrws wedi’i gau mewn ystafell arall cyn i ni gyrraedd. Fel arall, ni fyddwn yn gallu cyflawni unrhyw waith. Bydd hyn hefyd yn cynorthwyo eich anifeiliaid i beidio â chynhyrfu gan ein bod yno.
  • Os oes gennych ardd, rhaid i chi gadw’r terfyn(au) yn ddiogel er mwyn stopio eich anifeiliaid anwes rhag dianc.
  • Rhaid i chi wneud yn siŵr nad yw eich anifail anwes yn difrodi ein heiddo. Os bydd unrhyw ddifrod yn digwydd, efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a allai olygu y gallech golli eich cartref.
  • Ni chaniateir bridio masnachol o eiddo.