Cyngor Sir Ynys Môn

Gwersyll diawdurdod: rhoi gwybod


Mae gwersyll diawdurdod yn grŵp o garafanau neu gerbydau sydd wedi’u lleoli ar dir heb ganiatâd perchennog neu feddiannydd y tir.

Unwaith y bydd perchnogaeth y tir wedi’i chadarnhau, bydd y cyngor yn ymweld â’r safle cyn gynted â phosibl i asesu:

  • cyflwr a glendid y safle
  • unrhyw aflonyddwch i drigolion lleol, busnesau neu dirfeddianwyr
  • a yw’r gwersyll yn rhwystro priffordd neu hawl dramwy gyhoeddus
  • unrhyw bryderon a adroddwyd i’r heddlu
  • unrhyw anghenion lles neu ddyngarol y rhai sy’n aros ar y safle

Bydd y cyngor yn gofyn i’r rhai sy’n meddiannu’r safle symud ymlaen ac fel arfer yn ceisio cytuno ar amserlen resymol iddynt adael.

Rhoi gwybod am wersyll diawdurdod

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am wersyll diawdurdod.