Nod y llawlyfr hwn yw cefnogi darparwyr cymorth tai i ddeall:
- sut mae’r Grant Cymorth Tai yn gweithredu
- ei gyswllt â’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd
- y rôl hanfodol y mae darparwyr yn ei chwarae i atal pobl rhag dod yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa tai, neu helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i lety sefydlog a’i gadw
P’un a ydych y newydd yn eich rôl neu’ch chwilio am wybodaeth newydd, mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ymarferol, gweithdrefnau lleol ac enghreifftiau go iawn i’ch tywys drwy’r dirwedd cymorth yn hyderus ac effeithiol.
Bwriad y llawlyfr yw darparu canllaw byr. Mae cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ddod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau, polisïau a phrotocolau sy’n berthnasol i’w rôl â’r gwasanaeth cymorth y maent ynghlwm ag o.