Cyngor Sir Ynys Môn

​Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr


Ym mis Mai 2021 comisiynwyd Arc4 i gynorthwyo Cynghorau Gwynedd a Môn i baratoi Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Cyhoeddwyd canlyniadau'r asesiad yn Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Môn a Gwynedd 2022 (GTAA).

Mae GTAA 2022 wedi nodi'r anghenion canlynol ar gyfer Ynys Môn:

  • Dau safle cludo i'w defnyddio fel mannau aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr ar hyd yr A55, un yn ganolog ac un yng Nghaergybi.

Gall anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr newid yn ystod y cylch asesu, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu o fewn cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru.

Sylwch fod rhai eitemau wedi cael eu golygu er mwyn sicrhau anhysbysrwydd neu warchod unrhyw wybodaeth bersonol.

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.