Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi paratoi Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (yr Asesiad) yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae’n darparu sylfaen dystiolaeth gadarn a fydd yn cael ei defnyddio fel sail i strategaeth dai’r cyngor, y Cynllun Datblygu Lleol, a’r ddarpariaeth tai fforddiadwy ar hyd a lled yr ynys. Mae’r Asesiad yn asesu anghenion tai nawr ac yn y dyfodol, ac yn nodi’r math a maint o dai a’r tenantiaethau sydd eu hangen.
Mae hefyd yn cefnogi prosesau allweddol megis negodi tai fforddiadwy drwy’r system cynllunio a dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol. Mae Ynys Môn wedi cael ei rhannu’n naw ardal marchnad dai i ystyried sut mae pobl yn byw a symud ar yr ynys, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r galw lleol.
Mae’r Asesiad yn amlygu’r prif heriau, yn cynnwys y pwysau o ran fforddiadwyedd a’r galw uchel am gartrefi llai, yn enwedig tai cymdeithasol un ystafell wely, yn ogystal ag opsiynau i brynu tai fforddiadwy.
Yn ystod y pum mlynedd gyntaf yr asesiad, yr angen blynyddol gros am dai fforddiadwy yw tua 248 o gartrefi ar gyfartaledd. Ar ôl ystyried y cyflenwad tebygol o dai, yr angen net yw 167 o dai fforddiadwy'r flwyddyn, yn cynnwys 73 o gartrefi rhent cymdeithasol, 31 o gartrefi rhent canolradd, a 63 o gartrefi cost is i’w prynu.
Mae’r asesiad hefyd yn nodi galw uchel am dai rhent cymdeithasol un ystafell wely, sef tua 65 o unedau'r flwyddyn.
Dylid ystyried yr Asesiad ochr yn ochr â data’r gofrestr dai sydd wedi’i gynnwys ym mhrosbectws dai’r cyngor, er mwyn sicrhau bod anghenion strategol tymor hir a’r galw presennol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu cynigion tai.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.