Cafodd y Cynllun Strategol Gwasanaethau Tai ar Gyfranogiad Tenantiaid 2024 i 2029 ei ddatblygu ar y cyd hefo’n tenantiaid ac mae 4 prif feysydd blaenoriaeth.
Blaenoriaethau'r cynllun
- Ymgysylltu a hysbysu: Sicrhau ein bod ni’n ymgysylltu’n effeithiol a rhannu gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â’r gwasanaethau tai.
 
- Recriwtio, cadw a dylanwadu: cynyddu cyfranogiad tenantiaid  a grymuso tenantiaid i lunio ein gwasanaethau a dylanwadu arnynt.
 
- Esblygu ac arloesi: Gwella ein gwasanaethau yn barhaus i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.
 
- Hyfforddi a datblygu sgiliau: Sicrhau bod tenantiaid yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i gymryd rhan mewn cyfleoedd cyfranogiad tenantiaid.
 
        
            
                    
                Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at 
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.