Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymryd rhan mewn cyfranogiad tenantiaid


Eich cartref, eich llais

Darganfyddwch y nifer o ffyrdd y gallwch chi ddweud eich dweud a chymryd rhan o fewn gwasanaethau tai.

Rydym am i chi gymryd rhan cymaint â phosibl gan fod hyn yn ein helpu i wella sut mae ein gwasanaethau'n cael eu rhedeg ac yn gwneud ein cartrefi a'n cymunedau yn ardaloedd gwell i fyw ynddynt.

Mae 'cyfranogiad tenantiaid' yn golygu cydweithio, fel tenantiaid a landlordiaid, i wneud ein gwasanaethau tai yn well.

Rydym am glywed eich syniadau a'ch barn ar bolisïau tai, amodau a'r gwasanaethau a ddarparwn.

Gall eich mewnbrwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol!

Mae'n dda cymryd rhan

Pan fyddwch yn cymryd rhan, mae o fudd i chi ac i ni.

Fel tenantiaid, mae gennych gyfle i gwrdd â phobl newydd, magu hyder, a dysgu sgiliau newydd. Mae gennych chi hefyd y pŵer i ddylanwadu ar welliannau i wasanaethau a'n helpu ni ddeall yr hyn rydych chi ei esiau a'i angen.

I ni, fel eich landlord, mae eich cyfranogiad yn ein helpu i wella ein gwasanaethau, gan arwain at denantiaid hapusach a llai o gwynion. Mae hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy tryloyw ac atebol yn ein gwaith.

Manteision cyfranogiad tenantiaid 

Buddion tenantiaid 

  • Cyfle i gyfarfod pobl newydd ac i ddatblygu eich hyder.
  • Cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i wella eich gwybodaeth.
  • Gallwch ddylanwadu ar welliannau gwasanaeth a gwneud gwahaniaeth.
  • Gallwch ein helpu ni i ddeall pa wasanaethau mae tenantiaid yn dymuno ei cael a gwella gwasanaethau. 

Buddion Landlordiaid:

  • Helpu i wella bodlonrwydd tenantiaid a gwasanaethau.
  • Gwell bodlonrwydd tenantiaid yn arwain at lai o gwynion.
  • Helpu i rannu gwybodaeth ac i fod yn agored ac yn atebol.
  • Helpu i ddeallt pa wasanaethau sydd eu hangen a lle i dargedu adnoddau. 

Sut allwch chi gymryd rhan

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chwarae eich rhan a hynny o lefel isel i lefel uchel. 

Lefel isel 

  • Mynychu sioe deithiol tai.
  • Cymryd rhan mewn diwrnod glanhau cymunedol.
  • Cymryd rhan mewn prosiect amgylcheddol.
  • Gwneud cais am y Gronfa Gwella Amgylcheddol a Chymunedol.
  • Cymryd rhan mewn prosiect rhwng cenedlaethau.
  • Cwblhewch holiadur neu arolwg boddhad o gysur eich cartref eich hun.

Lefel canolig 

  • Cyfarfodydd tenantiaid anffurfiol bob hyn a hyn.  
  • Cymryd rhan mewn Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
  • Ymunwch â'r Grŵp Cyhoeddiadau Tenantiaid.
  • Ymunwch â Grŵp Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr.
  • Mynychu Fforwm Tai Gwarchod.

Lefel uchel 

  • Cymryd rhan yn aml mewn cyfarfodydd a gweithgareddau. 
  • Dod yn archwiliwr tenantiaid.
  • Ymunwch â Fforwm Atgyweirio a Chynnal a Chadw.
  • Ymunwch â'r Fforwm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB).
  • Ymunwch â'r Fforwm Digidol.
  • Ymunwch â'r Panel Monitro.

Cefnogaeth

Mae cefnogaeth ar gael i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan. 

Byddwn yn:

  • darparu cludiant i ac o gyfarfodydd 
  • darparu gofal plant
  • darparwch unrhyw hyfforddiant angenrheidiol - mae hyn yn cynnwys cyrsiau achrededig a heb eu hachredu

Os hoffwch ragor o wybodaeth am y gwahanol opsiynau, cysylltwch â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. 

Ffôn: 01248 752 200

E-bost: tenantstenantiaid@ynysmon.llyw.cymru

Llio Rowlands, Uwch Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid
Nikki Jones, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid
Lucy Kelly, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid