Cyngor Sir Ynys Môn

Draenio tir a chyrsiau dŵr


Cyngor Sir Ynys Môn sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio cyrsiau dŵr arferol. Mae hyn yn cynnwys rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw newidiadau i gyrsiau dŵr arferol a allai atal neu newid y llif o unrhyw gwrs dŵr arferol a chamau gorfodi er mwyn unioni’r gwaith anghyfreithlon a niweidiol posibl i gwrs dŵr. Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn cyflawni’r rôl hon yn flaenorol ond mae’r cyfrifoldeb wedi’i drosglwyddo er mwyn galluogi’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i fedru gweithredu eu rolau a’u cyfrifoldebau newydd mewn perthynas â risg llifogydd yn lleol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am ganiatáu gwaith ar y prif afonydd.    

Os yw perchnogion glan yr afon neu gyrff eraill yn dymuno sianelu cwrs dŵr arferol neu osod unrhyw rwystr, mae angen caniatâd i wneud hynny. Pwrpas rheoliadau cyrsiau dŵr arferol yw rheoli gweithgareddau a allai gael effaith andwyol o ran lifogydd.   

Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n bwriadu gwneud gwaith un ai dros dro neu barhaol mewn, dros, o dan neu ger cwrs dŵr neu amddiffynfeydd llifogydd (yn cynnwys amddiffynfeydd môr) yn cael y caniatâd angenrheidiol cyn dechrau ar y gwaith. Codir am ganiatadau ar gyfer mathau o rwystrau sy’n cael eu hadnabod gan y Ddeddf Draenio Tir. Bydd perchnogion glannau afonydd yn cael eu hannog i gysylltu â’r Cyngor i drafod unrhyw geisiadau a bydd ffurflen gais yn cael ei hanfon atynt ar gais. 

Cydnabyddir yn eang bod sianelu yn cael effaith andwyol iawn ar lifogydd. Bydd ceisiadau o’r fath i sianelu cwrs dŵr ond yn cael eu caniatáu yn gyffredinol lle mae wedi’i ddangos nad oes dewis ymarferol arall, bod gofynion tra phwysig ar gyfer y gwaith a bod mesurau lliniaru wedi eu cynnig ac wedi eu hystyried yn dderbyniol gan CSYM. Mae’r Awdurdod yn cefnogi datganiad cyffredinol i atal sianelu cyrsiau dŵr.

Bydd y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Polisi isod yn darparu arweiniad pellach ar ganiatáu ynghyd â ffurflen gais sydd i’w defnyddio wrth gyflwyno’r cais.

Ffurflen Gais gyda nodiadau Arweiniad ar gyfer Caniatâd i Gyrsiau Dŵr Arferol (PDF) 

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.