Cyngor Sir Ynys Môn

Bagiau tywod


Does dim dyletswydd deddfwriaethol ar Gyngor Sir Ynys Môn i ddarparu eiddo preswyl neu fasnachol â bagiau tywod er mwyn eu hamddiffyn rhag llifogydd oni bai bod ffynhonnell y llifogydd yn teithio o ased sy’n berchen i’r Cyngor megis y briffordd neu gwrs dŵr sy’n teithio drwy dir sy’n berchen i’r Cyngor. 

BYDD Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) yn

  1. Trefnu bagiau tywod er mwyn dargyfeirio llif y dŵr sy’n deillio o asedau Awdurdod Lleol megis gylïau’r briffordd, ceuffosydd a ffosydd ynghyd â chyrsiau dŵr, ceuffosydd a ffosydd sydd wedi eu lleoli ar dir sy’n berchen i’r awdurdod lleol; 
  2. Yn amodol ar argaeledd; trefnu bagiau tywod mewn lleoliadau lle mae risg uniongyrchol i fywyd neu eiddo. Bydd y penderfyniad i roi bagiau tywod yn cael ei gymryd drwy ddisgresiwn y swyddogion sy’n ymateb. Lle mae hynny’n bosibl, rhoddir blaenoriaeth i drigolion oedrannus a bregus. 
  3. Casglu bagiau tywod o dir sy’n berchen i’r awdurdod a mannau agored cyhoeddus a chael gwared arnynt mewn modd priodol.

NI FYDD Cyngor Sir Ynys Môn 

  1. Yn trefnu i eiddo preifat gael bagiau tywod ymlaen llaw, cyn achos o lifogydd;
  2. Anfon bagiau tywod i eiddo masnachol ar unrhyw adeg cyn, yn ystod neu yn dilyn achos o lifogydd, oni bai yr ystyrir bod hynny’n angenrheidiol dan amodau eithriadol er mwyn amddiffyn isadeiledd preswyl a / neu masnachol rhag difrod gan lifogydd;  
  3. Caniatáu trigolion i gasglu bagiau tywod o storfeydd CSYM;
  4. Casglu bagiau tywod o dir preifat, eiddo preswyl (oni bai am achosion pan fyddant wedi eu trefnu gan CSYM ar gyfer trigolion oedrannus neu fregus) neu eiddo masnachol, nac 
  5. Yn casglu bagiau tywod nad ydynt wedi eu trefnu gan CSYM.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.