Cyngor Sir Ynys Môn

Tir llygredig


Ac eithrio Mynydd Parys ger Amlwch, nid yw hanes diwydiannol Ynys Môn yn awgrymu fod rhannau helaeth o dir wedi’i lygru. Y mae’r defnydd tir cyfredol yn fwy tebygol o fod wedi achosi llygredd.

Ymysg yr enghreifftiau o ffynonellau llygredd mae: gorsafoedd petrol, gweithfeydd cemegol, ffatrïoedd ordnans, gweithfeydd metel a gweithgareddau eraill o’r fath sy’n gwneud defnydd diwydiannol o dir.

Prif amcanion y cyngor wrth ddelio â thir llygredig fydd:

  • gwarchod iechyd dynol
  • gwarchod dyfroedd rheoledig
  • atal difrod i eiddo
  • atal tir rhag cael ei lygru ymhellach
  • annog mesurau gwirfoddol i “lanhau” tir llygredig
  • annog ailddefnyddio tir llygredig, neu “dir brown” fel y’i gelwir weithiau.

Datblygu Tir sydd wedi’i Halogi: Canllaw i Ddatblygwyr

Mae’r canllaw hwn wedi’i baratoi i ddatblygwyr a’u hasiantau/ymgynghorwyr a allai fod yn rhan o asesu a rheoli tir halogedig yng Nghymru. Ei nod yw amlinellu’r wybodaeth sydd ei hangen ar Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) er mwyn iddynt allu penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyflawni’r amodau halogi tir cysylltiedig. Mae’r canllaw hwn yn cynnig trosolwg o arfer da ar gyfer gweithdrefnau rheoli halogi tir a fydd yn helpu i fodloni gofynion gwybodaeth yr ACLl wrth ddatblygu’r tir hwnnw, os cânt eu dilyn.

Ar bob adeg, cyfrifoldeb y datblygwr yw dilyn arferion da a nodi natur, maint a graddfa’r tir yr effeithir arno gan halogi ac, os oes angen, gyflawni gwaith adfer i sicrhau bod y tir yn addas ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Nid oes gan yr ACLl ddyletswydd gofal i’r tirfeddiannwr.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.