Cyngor Sir Ynys Môn

Prosiectau parhaus


Craig y Don, Amlwch

Mae gwaith archwilio rhagofalol yn mynd ymlaen yn stad Craig y Don ar hyn o bryd. Mae’r gwaith yn gysylltiedig ag asesiad i weld a yw’r defnydd hanesyddol a wnaed o’r tir yng Nghraig-y-Don wedi gadael llygredd yn y pridd. Mae disgwyliad ar y Cyngor i nodi a blaenoriaethu unrhyw dir yn ei ardal a all fod wedi ei lygru o ganlyniad i ddefnydd diwydiannol yn y gorffennol.

Mae’r archwiliad yn cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Tir Llygredig Llywodraeth Cymru 2017-18.

Hanes

Bydd nifer o’r trigolion yn cofio bod y safle yn aml yn cael ei gyfeirio ato fel “Gwaith Hills” neu “Hills Works”. Mae “Gwaith Hills” yn gyfeiriad at Waith Cemegol Hills a oedd yn gweithredu o’r safle o tua 1889 ac yn arbenigo mewn cynhyrchu gwrteithiau. Fodd bynnag, hyd yn oed cyn hynny, roedd copr wedi bod yn cael ei smeltio ar y safle hwn ers oddeutu 1786.

Gwaith hyd yn hyn

  • Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cysylltu a’r holl drigolion yn gofyn am ganiatâd i gymryd samplau ac i gasglu ffurflenni caniatâd.
  • Mae ESI, y contractwyr penodedig wedi cychwyn gwaith samplo ers 11 Rhagfyr 2017.
  • Mae ESI wedi cwblhau’r gwaith samplo ar ddydd Gwener 26 Ionawr 2018.
  • Mae profion labordai yn cael eu cynnal ar y funud
  • Cynhaliwyd Cyfarfod Preswylwyr 15.03.18 lle cyflwynwyd canlyniadau 

Grŵp Trigolion

Mae grŵp trigolion wedi cael ei sefydlu er mwyn rhoi gwybod i’r trigolion am unrhyw ddatblygiadau ac i ymateb i unrhyw bryderon sydd gan drigolion. Mi fydd y cyfarfod nesaf yn cael ei cyhoeddi yma.

Cofnodion y Cyfarfod

Bydd y cofnodion sydd wedi cael eu cymeradwyo yn cael eu llwytho ar y dudalen hon fel bod trigolion yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau. 

Os oes gan unrhyw drigolyn gwestiwn ynghylch yr archwiliad, mae croeso i chi gysylltu â’r Adain Iechyd yr Amgylchedd.