Cyngor Sir Ynys Môn

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol


Mae’r Rheoliadau Difrod Amgylcheddol yn ymwneud ac atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Mae difrod amgylcheddol yn golygu difrod i:

  1. rywogaethau neu gynefinoedd sy’n cael eu diogelu, neu safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
  2. dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu
  3. dir

O ran gweithredwyr gweithgareddau, os yw’r gweithgaredd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu os yw’r gweithgaredd wedi achosi difrod a bod rheswm da i gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, dywed rheoliad 14 bod raid i’r cyfryw weithredwyr gymryd yr holl gamau y mae’n ymarferol eu cymryd, a hynny ar unwaith, i atal difrod pellach a rhaid iddynt hefyd roi gwybod yn syth i’r awdurdod sy’n gorfodi.