Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn eich helpu i barcio’n agosach at eich cyrchfan os ydych yn anabl.
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas eich hun, neu gall perthynas wneud cais ar eich rhan.
Nid oes rhaid i berson yrru i wneud cais am fathodyn glas. Mae’r bathodyn ar gyfer yr unigolyn a gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y mae’r unigolyn yn teithio ynddo, fel gyrrwr neu deithiwr.
Mae angen i chi wneud cais newydd am Fathodyn Glas bob 3 blynedd.
Cyn gwneud cais
Hunaniaeth a phrawf
Er mwyn prosesu eich cais, rhaid inni gael:
- llun digidol diweddar yn dangos eich pen a’ch ysgwyddau
- prawf o bwy ydych chi (fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
- prawf o’ch cyfeiriad (fel bil y Dreth Gyngor neu lythyr gan y llywodraeth)
- prawf o fudd-daliadau (os ydych yn derbyn rhai)
- eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych chi un)
- manylion eich Bathodyn Glas presennol (os ydych yn gwneud cais i adnewyddu’ch bathodyn)
Ni allwn brosesu eich cais heb y rhain.
Gallwch dynnu llun o’ch dogfennau ar eich ffôn clyfar neu dabled a’u huwchlwytho i’ch cais.
Yng Nghymru, gall unigolyn wneud cais am Fathodyn Glas trwy un o dri chategori:
- Awtomatig
- Dewisol
- Dros dro (anabledd sylweddol sy’n debygol o bara am y 12 mis nesaf)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i esbonio pwy sy’n gymwys (bydd y ddolen hon yn agor tab newydd).
Os oes angen, gallwch anfon dogfennau ategol:
Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 01248 750 057 (opsiwn 9).
Rydym yn ymwybodol o sefydliadau yn cynnig cefnogaeth gyda cheisiadau Bathodyn Glas. Mae’r sefydliadau hyn yn gofyn am swm sylweddol o arian i’ch helpu.
Nid oes rhaid i drigolion Ynys Môn wneud hyn i wneud cais am fathodyn glas.
Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio gwasanaeth y cyngor sydd am ddim.
Os ydych angen cymorth gydag eich cais plîs cysylltwch â ni.
Plîs defnyddiwch y we, safle di -gost i wneud cais ar-lein isod.
Siaradwch gyda swyddog 01248 750 057 (opsiwn 9) neu anfonwch e-bost bathodynglas@ynysmon.llyw.cymru a byddem yn hapus i gefnogi.
Codir tâl o £10 am fathodyn newydd a dim ond un amnewidiad y gellir ei roi mewn unrhyw gyfnod o 3 blynedd.
Gall sefydliad sy'n gofalu am bobl anabl wneud cais hefyd. Bydd tâl o £10 am fathodynnau i sefydliadau.
Gwneud cais neu adnewyddu ar-lein
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl wybodaeth ar y dudalen hon cyn gwneud cais.
Os hoffech arbed eich cais a mynd yn ôl ato yn ddiweddarach, crëwch gyfrif gyda Fy Nghyfrif Môn i gyflwyno eich cais.
Nid oes rhaid i chi greu cyfrif ond bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen mewn un sesiwn.
Lawrlwythwch ffurflen bapur a'i hanfon drwy'r post
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau sy’n esbonio pryd rydych chi’n gymwys i gael Bathodyn Glas.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r ffurflen gywir.
Bydd anfon ffurflen anghywir yn oedi'r cais.
Anfonwch y ffurflen at Bathodyn Glas, Cyswllt Môn, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni LL77 7TW.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Bydd angen i chi anfon dogfennau tystiolaeth penodol gyda'ch cais. Mae’r manylion ar y ffurflen gais.
Camddefnyddio Bathodyn Glas
Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd. Gallwch gael dirwy o hyd at £1000.
Gallwch ddarllen canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Bathodyn Glas yn gywir ar wefan Llywodraeth Cymru.