Cyngor Sir Ynys Môn

Pass Plus Cymru


  • wedi pasio eich prawf gyrru?
  • rhwng 17 a 25 oed?
  • byw ar Ynys Môn?

Beth am ddarganfod mwy o dechnegau, awgrymiadau a syniadau gyrru am £20 yn unig...a does dim prawf!

Sut mae’n gweithio?

Mae yna ddau rhan:

  1. gweithdy dreifio ar Zoom
  2. diwrnod gyrru

Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • fynd ar y draffordd
  • technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
  • mynd o gwmpas yn y nos
  • ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
  • gyrru ar ffyrdd gwledig
  • meddwl ymlaen - yn union fel y gwnewch chi nawr

Beth gewch chi o hyn?

  • sgiliau gyrru gwell
  • mwy o obaith o yswiriant is
  • llai o gyfle o gael damwain neu anafu’ch hun, ffrindiau a phobl eraill

Gallwch gofrestru drwy e-bost: DiogelwchffyrddRoadSafety@ynysmon.gov.uk