Hysbysiad i Fforwyr: rhybudd dwyrain Afon Menai 18 Mehefin 2026
Number: 03 /2026
Cyhoeddwyd gan yr harbwr feistr ar 18 Mehefin 2026
Rhoddir hysbysiad drwy hyn ar 20 Mehefin, am 11am, bydd ras rwyfo o tua 20 o gychod rhwyfo yn cychwyn o Beaumaris wrth y llithrfa, gan fynd ymlaen i Ynys Seiriol (Puffin Island), cylchdroi’r ynys i gyfeiriad gwrthglocwedd, ac yna dychwelyd i ardal Bae Biwmares I Gorffan.
I gael arweiniad ar weithredu eich cwch mewn lleoedd rhannu, mae Hysbysiad Lleol i Fforwyr 02-26 yn cynnwys manylion o MGN 715 (M/F) – Recommended Best Practice for Respectful and Safe Operation in Shared Spaces.
Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi mordwyo diogel, ymwybyddiaeth o ddefnyddwyr eraill, a gweithrediad ystyriol mewn ardaloedd prysur neu aml-ddefnydd.
Gellir dod o hyd i MGN 715 yma.
Bydd yr hysbys hwn yn aros yn ei le tan 2:30pm on 21 Mehefin 2026 oni bai ei ddiweddarer.
Hysbysiad i Fforwyr: rhybudd Amlwch a dwyrain Afon Menai 4 Ebrill 2026
Number: 02 /2026
Cyhoeddwyd gan yr harbwr feistr ar 4 Ebrill 2026
Rhoddir hybys yma fod yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi cyhoeddi Nodyn Canllawiau Morol MGN 715 (M+F). Mae’r ddogfen hon yn cynnwys arferion gorau ar gyfer gweithredu’n ddiogel ac yn barchus rhwng gwahanol ddefnyddwyr y dŵr mewn mannau a rennir.
Mae nifer ac amrywiaeth y defnyddwyr yn ein dyfroedd lleol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf — gan gynnwys cychod hamdden, llongau masnachol, cerbydau dŵr personol, chwaraeon padlo, grwpiau nofio, a llongau ymreolaethol neu bell-weithredol. Gall y gymysgedd hon greu risgiau mordwyo ychwanegol, yn enwedig mewn ardaloedd cyfyng neu brysur.
Nod MGN 715 yw:
- Hysbysu defnyddwyr llai profiadol am eu cyfrifoldebau; a
- Atgoffa defnyddwyr mwy profiadol o’u cyfrifoldebau, yn enwedig pan fydd gwahanol weithgareddau’n gorgyffwrdd.
Argymhellir i ddefnyddwyr y dŵr i ymgyfarwyddo â’r canllawiau sy’n ymwneud â:
- Mordwyo a chadw gwyliadwriaeth – gan gynnwys cyfrifoldebau o dan COLREGs ac unrhyw is-ddeddfau neu gyfarwyddiadau lleol y porthladd.
- Cyfathrebu effeithiol rhwng pob math o ddefnyddwyr.
- Rhannu’r gofod morol yn ddiogel ac yn barchus – gan gynnwys bod yn ymwybodol o’ch amgylchedd, rheoli cyflymder, ac osgoi gwneud unrhyw beth a all beri perygl neu ofn i ddefnyddwyr eraill.
Gellir gweld y ddogfen lawn ar wefan yr MCA.
Bydd yr Hysbys hwn yn aros yn ei le tan 31 Rhagfyr 2026, oni bai ei ddiweddarer.
Cais am drwydded forol i osod teils ‘Living Sea Walls’/cynefinoedd morol ym Mhorth Amlwch
Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod Cyngor Sir Ynys Mônwedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, am drwydded forol ar gyfer gosod teils ‘Living Sea Walls’/cynefin morol ym Mhorth Amlwch.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2459.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r Gyfoeth Naturiol Cymru, Tîm Trwyddedu Morol, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ, neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2459.
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Am ragor o wybodaeth: morwrolmaritime@ynysmon.llyw.cymru
Hysbysiad i forwyr: Rhybudd dwyrain Afon Menai 4 Mawrth 2026
Rhif. 01/2026
Gwaith Pont Menai
Hysbysir morwyr y bydd traffig masnachol cynyddol rhwng 8 Mawrth 2026 a 14 Mawrth 2026 yn gweithredu yn yr ardal a nodir ar y siart uchod, yn enwedig yn ystod ac o amgylch cyfnodau llonydd y dŵr isel.
Bydd y traffig hwn yn cynnwys pontŵn a cwch tynnu a all fod angen iddynt ddal eu safle am gyfnodau estynedig. Bydd y pontŵn a’r llongau yn arddangos y siapiau dydd neu’r goleuadau priodol.
Dylai morwyr fordwyo gyda gofal ac yn cynnal pellter diogel oddi wrth y llongau. Os oes unrhyw amheuaeth, dylai morwyr gysylltu â’r llong wrth gefn Delta2 ar Sianel VHF 16.
Dros nos, bydd llongau mawr yn angori yn agos at y marc ‘X’, gan arddangos y goleuadau angori priodol.
Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg. Rhif ffôn UK Highways yw 0844 693 1448. Mae’r rhif hwn ar gael 24/7.
Gofynnir i newyddiadurwyr beidio â chysylltu ag adrannau unigol. Bydd y Swyddfa’r Wasg yn falch o’ch cynorthwyo ac yn trefnu llefarydd addas ar eich cyfer os oes angen. Gellir cysylltu â nhw ar 01248 752130 neu 01248 752128.
Mae’r hysbysiad hwn yn ganslo am 11:59pm ar 14 Mawrth 2026.