Os oes angen i chi angori cwch yn unrhyw o’r lleoliadau canlynol bydd rhaid i chi estyn cais am drwydded angora trwy’r adain Gwasanaethau Morwrol.
Bydd angen i chi wneud cais am drwydded angori drwy’r adain Gwasanaethau Morwrol os ydych chi eisiau angorfa yn:
- Biwmares
- Bae Friars
- Glyn Garth
- Porthaethwy
- Traeth Coch
Gyrrwch ebost i ofyn am ffurflen gais i morwrolmaritime@ynysmon.llyw.cymru
Angori mewn lleoliad arall
Os ydych chi eisiau angori mewn lleoliad arall, dywedwch hyn yn eich e-bost.
Dim gwarant o angorfa
Nid yw derbyn cais yn golygu y bydd trwydded yn cael ei rhyddhau. Bydd caniatáu trwydded yn dibynnu ar argaeledd angorfa addas.