Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaeth llyfrgell plant a phobl ifanc


Pam mae darllen yn bwysig

Rydym yn falch iawn o rannu neges arbennig gan Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ynys Môn am bŵer darllen a’r gwahaniaeth y gall llyfrau ei wneud.

O straeon sy’n gwneud i ni chwerthin, i lyfrau sy’n ein helpu i ddeall y byd – mae darllen yn agor cymaint o ddrysau.

Mwynhewch wrando ar eiriau Siôn – a gobeithio y byddant yn eich ysbrydoli I droi’r dudalen nesaf.

Ynglŷn â gwasanaeth llyfrgell plant a phobl ifanc

Mae llyfrgelloedd Môn yn darparu llyfrau ac adnoddau gwybodaeth i blant o bob oedran a gallu.

Mae llyfrgelloedd Môn yn darparu llyfrau ac adnoddau gwybodaeth i blant o bob oedran.  Mae ymuno yn rhad ac am ddim ac nid ydych yn gorfod talu dirwy os yw’ch llyfrau yn hwyr!

Mae dewis helaeth o lyfrau stori i blant ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â llyfrau ar CD a  DVDs . Mae llyfrau gwybodaeth ar gael ar gyfer amser hamdden yn ogystal â chefnogi gwaith cartref.

Defnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim

Gellir defnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim ym mhob llyfrgell ym Môn. Bydd angen goruchwyliaeth rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant o dan 13. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant 13 i 16.

Sesiynau Rhannu Rhigwm

Mae sesiynau Rhannu Rhigwm yn cael eu cynnal mewn tair o’n llyfrgelloedd. Sesiynau i blant a babanod dan bump oed yn ystod tymor ysgol yn unig yw’r rhain. Straeon a rhigymau a digon o hwyl  - i gyd am ddim.

Dechrau Da

Mae Gwasanaeth Dechrau Da yn gynllun cenedlaethol sy’n helpu teuluoedd i ddarganfod a mwynhau yr hwyl o rannu llyfrau.  Mae pob baban yn derbyn pecyn Dechrau Da ar ei asesiad iechyd rhwng  8 i 12 mis oed gan ei ymwelydd iechyd a phecyn blynyddoedd cynnar ar ei asesiad iechyd 24 mis - am ddim.

Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn Dechrau Da na'ch pecyn blynyddoedd cynnar - holwch eich ymwelydd iechyd.