Bydd Cyngor Sir Ynys Mon yn ymchwilio i gwynion am fwyd mewn perthynas â bwyd a brynwyd o fewn y sir.
Yr hyn y gallwn ei ymchwilio
Nodwch mai dim ond i gwynion sy'n peri risg i iechyd y byddwn yn ymchwilio.
Pryd i gysylltu â'r siop neu'r cyflenwr
Os yw eich cwyn yn ymwneud â bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi wedi canfod pethau diarth yn y cynnyrch sy’n gynhenid iddo, yna cysylltwch â'r siop, y gwneuthurwr neu’r cyflenwr lle prynwyd y nwyddau.
Cyn i chi wneud cwyn
Mewn llawer o achosion, mae modd datrys eich cwyn trwy drafod y mater gyda'r siop, y busnes bwyd ac ati.
Ar y cyfan, mae’n bryder i’r busnesau eich bod wedi dod o hyd i broblem a byddant yn gwneud eu gorau i ddatrys y mater.
Rydym yn argymell mai dyma ddylech chi ei wneud fel cam cyntaf, yn enwedig os yw'r bwyd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi’n canfod pethau dieithr yn y bwyd sy’n gynhenid iddo.
Cwynion am safleoedd bwyd
Os oes gennych unrhyw bryderon am fusnes bwyd, gallwch eu hadrodd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gweld arferion hylendid bwyd gwael. Efallai eich bod hefyd wedi sylwi ar safonau glendid gwael.
Efallai eich bod yn credu bod busnes yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd anghywir. Efallai nad oes ganddo sticer o gwbl hyd yn oed. Yn yr achosion hyn, gallwch eu hadrodd.
Yn ogystal, dylech adrodd am unrhyw gwynion am fwyd nad yw'n bodloni gofynion labelu. Mae hyn hefyd yn cynnwys bwyd sy'n gamarweiniol neu wedi'i halogi.
Gwneud cwyn am fwyd
Rydym yn y broses o ddatblygu ffurflen ar-lein ar gyfer cwynion am fwyd.
Yn y cyfamser, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt ar y dudalen hon.
Cyfrinachedd
Sylwch ei bod yn bolisi gan Gyngor Sir Ynys Mon i beidio ag ymchwilio i gwynion dienw, ond byddwn yn cadw unrhyw fanylion personol y byddwch yn eu rhoi yn gyfrinachol