Rhoi gwybod am broblem gyda thân gwyllt neu fwg
Os yw mwg yn broblem barhaol ac er y byddwch efallai yn teimlo’n annifyr, fe ddylech yn gyntaf fynd at eich cymydog ac egluro’r broblem a dweud sut y mae’n effeithio arnoch chi. Efallai na fyddant yn ymwybodol eu bod yn achosi niwsans.
Os na fyddwch yn gallu datrys y materion gyda’ch cymdogion, gellir adrodd am broblemau parhaol i’r adain Iechyd Amgylcheddol drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein.
Y gyfraith
Nid oes unrhyw is-ddeddfau mewn grym sy’n rhwystro coelcerthi gardd nac yn nodi’r amser o’r dydd na’r dydd o’r wythnos pryd y gellir cynnau coelcerth ond nid yw hyn yn dweud y gallwch gynnal coelcerth pryd bynnag yr ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae yna gyfreithiau sy’n diogelu pobl rhag cael eu heffeithio gan y mwg a achosir gan goelcerthi.
Os bydd coelcerth yn cael ei chynnau’n rheolaidd, gan achosi llawer o fwg a lludw, neu bod y deunydd sy’n cael ei losgi yn beryglus i iechyd, yna gellir cymryd camau yn eich erbyn dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 fel niwsans statudol.
Os bydd coelcerth yn cael ei chynnau yn achlysurol, yna ni ddylai achosi unrhyw broblem.
Mwg tywyll o safleoedd diwydiant a masnachol
Dylid mynd â gwastraff masnachol neu ddiwydiannol i safle gwaredu gwastraff trwyddedig. Dan Ddeddf Aer Glân 1993 mae’n drosedd i achosi i fwg tywyll gael ei ollwng o unrhyw eiddo diwydiannol neu fasnachol.
Byddai’r niwsans a achosir gan fwg o eiddo domestig neu fwg nad ydyw’n fwg tywyll o eiddo diwydiannol neu fasnachol yn cael ei ystyried fel niwsans statudol gan yr Adain Iechyd yr Amgylchedd.
Efallai y bydd goblygiadau yn unol â Gofynion Rheoli Gwastraff os yw’r deunydd sy’n cael ei losgi yn wastraff ac efallai hefyd y byddech yn dymuno cysylltu gydag Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 0653 000 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Y gyfraith
Yn unol â Deddf Aer Glân 1993 mae’n drosedd gollwng mwg tywyll o simnai unrhyw adeilad. O’i gael yn euog o’r fath drosedd gallai deilydd yr adeilad orfod talu dirwy o hyd at £1,000, neu £5,000 yn achos rhywun â chanddynt fwrnais mewn bwyler neu beiriant diwydiannol.
Mae darpariaethau tebyg yn berthnasol i beiriannau rheilffordd a badau sy’n teithio ar ddŵr.Mae’n drosedd hefyd achosi i fwg tywyll ollwng o unrhyw adeilad masnachol neu ddiwydiannol. Mae’r ddarpariaeth hon yn ymwneud â mwg o goelcerthi.
Mae rhai eithriadau i’r troseddau hyn ac nid ydynt yn berthnasol i weithgaredd y cafwyd Trwydded ar ei gyfer dan reoliadau rhan 2 Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999.
Gall adeiladau masnachol gynnwys ffermydd a safleoedd dymchwel. Gallai unrhyw un sy’n achosi’r fath fwg, neu sy’n caniatau iddo gael ei achosi, orfod talu dirwy o hyd at £20,000 os ceir nhw yn euog.Ystyrir y bydd mwg tywyll wedi ei ryddhau os yw’n ymddangos fod deunydd wedi cael ei losgi ac y byddai’r deunydd hwnnw, yn ôl pob tebyg, wedi achosi mwg tywyll.
Dirwyon
Gall y cyngor ystyried bod trosedd mwg tywyll wedi ei chyflawni os yw’n cael hyd i dystiolaeth o olion plastig, teiars neu fwrdd sglodion ac ati mewn gweddillion coelcerth. Mae llosgi ceblau yn drosedd benodol dan adran 33 y Ddeddf ac mae’r ddirwy am wneud hynny yn gallu bod cymaint â £5,000.
Sut i fesur mwg tywyll
Gellir mesur mwg tywyll gan ddefnyddio siart Ringelmann (dolen i wefan allanol yn Saesneg).
Gall Llys fod yn fodlon bod mwg yn fwg tywyll, neu ddim yn fwg tywyll, hyd yn oed os na chafodd ei gymharu gyda’r siart Ringelmann.