Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu polisi sy'n gwahardd rhyddhau balŵns a lanternau awyr (cânt eu galw weithiau’n lanternau Tsieineaidd) yn fwriadol ar eiddo a thir y cyngor ac mewn digwyddiadau a gymeradwywyd neu a gefnogir gan y cyngor ac a gynhelir ar dir nad yw'n berchen arno.
Os ydych chi’n bwriadu defnyddio balŵns neu lanterni awyr ar dir preifat wrth ddathlu’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eleni, meddyliwch am eiliad ym mhle bydd y rhain yn glanio yn y diwedd. Mae’r Marine Conservation Society UK yn cynghori, pan gaiff balŵns a lanterni awyr eu rhyddhau, dydyn nhw ddim yn diflannu.
Maent yn disgyn yn araf yn ôl i lawr i’r ddaear ac yn aros yno, yr un fath ag unrhyw sbwriel arall. Ond mae balŵns a lanternau awyr yn sbwriel peryglus iawn. Caiff balŵns eu camgymryd am fwyd gan sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt, yn enwedig crwbanod y môr. Unwaith mae’r anifail yn bwyta balŵn, gall flocio’r system dreulio ac achosi i’r anifail lwgu. Mae’r llinyn ar falŵns hefyd yn medru clymu o amgylch anifeiliaid a’u trapio.
Gweler y linc ar wefan y Marine Conservation Society am ragor o wybodaeth ar eu hymgyrch Don’t Let Go campaign.