Cyngor Sir Ynys Môn

Telerau ac amodau debyd uniongyrchol


Wrth gofrestru i unrhyw gynllun Debyd Uniongyrchol, rydych yn ymrwymo i’r cynllun am gyfnod cychwynnol o 3 thaliad misol yn olynol, ac ar ôl hynny bydd eich taliadau debyd uniongyrchol yn parhau am gyfnod di-dor hyd nes y byddwch yn canslo’r taliadau gyda’ch banc/cymdeithas adeiladu.

Rhaid i chi roi gwybod i’r ganolfan hamdden os ydych yn canslo a gallwch wneud hynny trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych gyfleusterau e-bost, llenwch y ffurflen ganslo yn eich Canolfan Hamdden agosaf os gwelwch yn dda.

Bydd y Telerau ac Amodau llawn ar eich ffurflen gais neu gallwch ofyn amdanynt yn nerbynfa’r ganolfan hamdden.