Gallwch ddefnyddio ein cerdyn hamdden blynyddol os nad ydych am ymrwymo i Ddebyd Uniongyrchol.
Mae'r cerdyn hamdden (sy'n para 12 mis) yn rhoi gostyngiad o hyd at 25% i chi ar ffioedd mynediad.
Gellir defnyddio'r cerdyn yn:
- Canolfan Hamdden Caergybi
- Canolfan Hamdden Plas Arthur (Llangefni)
- Canolfan Hamdden Amlwch
- Canolfan Hamdden David Hughes (Porthaethwy)
Pwysig: ni ellir defnyddio'r cerdyn hamdden yng Nghanolfan Beaumaris (canolfan hamdden Biwmares) gan nad yw'n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Cost
- Oedolyn (18 i 59) £22.70
- Oedolion dros 60 £14.70
- Plant a phobl ifanc (hyd at 17) £9.20
- Cerdyn aelodaeth £5
- Di-waith (am 3 mis) £6.20
- Timau, grwpiau a clybiau £82
Gwneud cais
I wneud cais am y cerdyn hamdden blynyddol, lawrlwythwch y ffurflen gais aelodaeth ar y dudalen hon neu ewch i un o'n canolfannau hamdden.
Dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau i'ch canolfan hamdden leol.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.