Cyngor Sir Ynys Môn

Llysgenhadon Ifanc


Nod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yw datblygu arweinwyr a gwirfoddolwyr ifanc trwy roi cyfrifoldeb iddynt o fod yn llysgenhadon ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon yn yr ysgolion.

Rôl Llysgennad Ifanc yw:

  • sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yn eu hysgolion
  • hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon trwy gymryd rhan mewn campau
  • bod yn esiampl dda ac yn eiriolwyr ar gyfer AG a chwaraeon yn yr ysgol
  • bod yn llais ar gyfer pobl ifanc ar faterion AG a champau yn eu hysgolion a’u cymunedau

Strwythur y rhaglen a’r hyfforddiant

Llysgenhadon Ifanc Platinwm

Bydd Llysgenhadon Ifanc Platinwm wedi treulio o leiaf flwyddyn fel Llysgennad Ifanc Aur ac maent yn fentoriaid sy’n cynorthwyo i hyfforddi Llysgenhadon Ifanc Aur ac Arian ar draws yr ardal leol.

Llysgenhadon Ifanc Aur

Mae Llysgenhadon Ifanc Aur yn gweithio ar draws ardal leol ac yn cael eu hyfforddi trwy gynhadledd sirol, wedi ei chynnal gan Ysgol Arbenigedd Arweiniol ar gyfer Arweinyddiaeth, Hyfforddi a Gwirfoddoli yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid. Mae’r Llysgenhadon Ifanc hyn yn cefnogi’r Llysgenhadon ifanc Efydd ac adiStar.

Llysgenhadon Ifanc adiStar

Mae Llysgenhadon Ifanc adiStar yn gweithio yn eu hysgolion eu hunain ac yn cael eu hyfforddi gan Lysgenhadon Ifanc Platinwm ac Aur gan ddefnyddio adnoddau a gyflenwir gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Llysgenhadon Ifanc Efydd

Plant oed ysgol gynradd yw Llysgenhadon Ifanc Efydd ac sy’n gweithredu yn eu hysgolion eu hunain ac yn cael eu hyfforddi gan Lysgenhadon Ifanc Platinwm ac Aur.

Ar hyn o bryd mae Ynys Môn yn gweithredu holl lefelau’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc. Ar hyn o bryd mae 68 o Genhadon Ifanc ysbrydoledig yn ein hysgolion uwchradd a chynradd sy’n annog pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.