Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Strategol Môn Actif 2024 i 2029


Mae’n hanfodol i bobl fod yn gorfforol weithgar er mwyn byw bywyd iach a bodlon ac mae’n helpu i leihau’r risg o salwch difrifol, yn ogystal â rhoi hwb i hunan barch a lleihau’r risg o straen.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ynys Môn yn wynebu heriau sylweddol ac, oherwydd hynny, bydd y dewisiadau sy’n agored i’r cyngor a’r penderfyniadau y bydd rhaid iddo eu gwneud yn rhai anodd iawn.

Y rhagdybiaeth wrth ddatblygu’r cynllun strategol hwn oedd y byddai’r cyngor a’i bartneriaid yn ymrwymo i weithio ar y cyd i wella iechyd a lles ein trigolion a’n hymwelwyr.

Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.