Cyngor Sir Ynys Môn

Nofio yng Nghanolfan Hamdden Caergybi


Ble

Ystafelloedd newid y pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Caergybi.

Pryd

Chwefror i ganol Mawrth.

Beth

  • Llawr newydd
  • Paneli wal ychwanegol
  • Gwaith cynnal a chadw hanfodol

Effaith

Bydd y pwll nofio’n aros ar agor.

Cam 1: tua 3 wythnos

  • Bydd yr holl ystafelloedd newid y pwll nofio ar gau.
  • Dylai cwsmeriaid ddefnyddio’r ystafelloedd newid ar yr ochr sych a dod yn barod i nofio (gwisgwch eich dillad nofio o dan eich dillad a dewch â fflip-fflops i helpu i leihau’r amser a dreulir yn yr ystafelloedd newid).

Cam 2: tua 2 i 3 wythnos

  • Bydd yr ystafell newid ddynion a’r ystafell newid anabl ar gau.
  • Bydd yr ystafell newid menywod ar agor.
  • Dylai cwsmeriaid gwrywaidd barhau i ddefnyddio’r ystafelloedd newid ar yr ochr sych a dod yn barod i nofio (gwisgwch eich dillad nofio o dan eich dillad a dewch â fflip-fflops i helpu i leihau’r amser a dreulir yn yr ystafelloedd newid).

Mwy o wybodaeth

E-bost: ⁠Monactif@ynysmon.llyw.cymru

Mae gan Caergybi bwll nofio mawr 25m a phwll bach i’r babanod. Rydym yn cynnig amryw o weithgareddau a rhaglenni nofio, darllenwch ymlaen am ragor o fanylion.

Gall amseroedd nofio fod yn ddarostyngedig i newidiadau munud olaf. Cysylltwch â’r dderbynfa am yr oriau cyfredol os gwelwch yn dda.

Archebu eich sesiwn nofio

Rhaid llogi eich lle ar-lein.

Archebu sesiwn nofio

Amserlen

Prisiau a cyfleusterau

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio cyhoeddus.

Nid oes cyfyngiadau oedran ir sesiwn yma.

Mae’r prif bwll a pwll bach ar gael oni bai fod wedi nodi yn wahanol. Mae mynediad ir pwll cyfan gyda dim cyfyngiadau symud rhwng y pyllau.

Rydym yn annog cwsmeriaid i nofio lled y pwll yn hytrach na hyd y pwll.

Pwll bach

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio cyhoeddus, pwll bach.

Nid oes cyfyngiadau oedran ir sesiwn yma.

Nid oes mynediad ir pwll mawr yn ystod y sesiwn yma.

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio lôn.

Mae rhaffau wedi eu gosod yn y pwll er mwyn gadael i gwsmeriaid nofio ar gyflymder ei hunain sef cyflym, canolig ac araf. Mae modd i chi ddewis eich lôn mwyaf cyfforddus.

Mae plant a phobl ifanc 8 oed a drosodd yn cael mynychu y sesiynau yma ar hyn o bryd.

Manteision nofio

Mae 30 munud o nofio yn cyfateb i 45 munud o weithgaredd ar y tir.

Gall 30 munud o nofio cymedrol losgi 200 i 300 o galorïau.

Pam dylen ni nofio

  • Cryfhau eich calon a’ch ysgyfaint.
  • Gwella eich ffitrwydd erobig.
  • Gwella eich cryfder a’ch ystwythder.
  • Siapio eich corff cyfan.
  • Llosgi calorïau i helpu gyda rheoli pwysau.
  • Ymarfer effaith isel sy’n llai o straen ar eich cyhyrau a’ch cymalau.
  • Yn addas i bob oed a gallu.
  • Lleddfu straen.
  • Gwneud i chi deimlo’n well.
  • Mae’n hwyl.

Mae nofio yn ymarfer effaith isel gwych.

Gellwch nofio’n hamddenol wrth eich pwysau neu mor galed ac mor gyflym ag y dymunwch.