Ystafell ffitrwydd
Mae amrywiaeth o beirannau ffitrwydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caergybi:
- peiriant rhedeg/cerdded
- peiriannau rhwyfo
- peiriannau beicio
- peiriannau stepio
Mae offer codi pwysau hefyd ar gael.
- Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn buddsoddi mewn offer newydd ffitrwydd oherwydd ailnegodi contractau egni canolfannau hamdden.
- Bydd ystafell cardiofasgwlaidd yn cau o 12pm dydd Llun 30 Mehefin ac ystafell ffitrwydd yn cau o ddydd Mawrth 1 Gorffennaf ‘2025 ac yn ailagor i’r cyhoedd brynhawn dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025.
- Bydd yr holl gyfleusterau eraill, oni bai am yr ystafell ffitrwydd, ar agor fel arfer yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn ystod y cyfnod hwn.
- Bydd aelodau pecyn nofio ac ystafell ffitrwydd DU yn gallu cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi am ddim yn ystod y cyfnod hwn. Archebwch eich lle wrth dderbynfa’r ganolfan hamdden.
- Hoffwn atgoffa aelodau Canolfan Hamdden Caergybi y gallwch hefyd ddefnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd yng nghanolfannau hamdden Amlwch, Plas Arthur a David Hughes yn ystod y cyfnod hwn.
- Bydd diweddariadau ar y gwaith yn cael eu rhannu'n rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol Môn Actif.
- Am ymholiadau pellach, cysylltwch â MonActif@ynysmon.llyw.cymru
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster a achoswyd.
Dosbarthiadau ffitrwydd
Dechreuwch eich patrwm ffitrwydd newydd heddiw. Gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau a champfa newydd ei hadnewyddu, mae rhywbeth i bawb.
Mae'r amserlen ffitrwydd ar gael ar y dudalen hon.
Dros 60 oed
Mae gwasanaeth hamdden Môn Actif hefyd wedi datblygu dosbarthiadau ffitrwydd i bobl dros 60 oed.
Archebwch ddosbarth
Gall aelodau archebu 7 diwrnod ymlaen gyda nad ydynt yn aelodau 48 awr cyn y sesiwn a ddew iswyd.
Archebwch ddosbarth ffitrwydd ar-lein
Amserlenni
Pobl dros 60 oed - dosbarthiadau ffitrwydd
Mae gwasanaeth hamdden Môn Actif wedi datblygu dosbarthiadau ar gyfer pobl dros 60 oed.