Ble
Ystafelloedd newid y pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Caergybi.
Pryd
Chwefror i ganol Mawrth.
Beth
- Llawr newydd
- Paneli wal ychwanegol
- Gwaith cynnal a chadw hanfodol
Effaith
Bydd y pwll nofio’n aros ar agor.
Cam 1: tua 3 wythnos
- Bydd yr holl ystafelloedd newid y pwll nofio ar gau.
- Dylai cwsmeriaid ddefnyddio’r ystafelloedd newid ar yr ochr sych a dod yn barod i nofio (gwisgwch eich dillad nofio o dan eich dillad a dewch â fflip-fflops i helpu i leihau’r amser a dreulir yn yr ystafelloedd newid).
Cam 2: tua 2 i 3 wythnos
- Bydd yr ystafell newid ddynion a’r ystafell newid anabl ar gau.
- Bydd yr ystafell newid menywod ar agor.
- Dylai cwsmeriaid gwrywaidd barhau i ddefnyddio’r ystafelloedd newid ar yr ochr sych a dod yn barod i nofio (gwisgwch eich dillad nofio o dan eich dillad a dewch â fflip-fflops i helpu i leihau’r amser a dreulir yn yr ystafelloedd newid).
Mwy o wybodaeth
E-bost: Monactif@ynysmon.llyw.cymru