Cyngor Sir Ynys Môn

Holiadur ystafell ffitrwydd


Rydym yn gwahodd defnyddwyr Canolfan Hamdden Amlwch i rannu eu barn am ein cyfleusterau ffitrwydd. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae’r gampfa yn cael ei defnyddio ac i nodi gwelliannau sy’n bwysig i chi - o oriau agor i drefniant a chyfarpar.

Cyn llenwi’r holiadur, cymerwch funud i edrych ar y cynllun campfa newydd isod. Mae cwestiwn ar y diwedd yn gofyn am eich barn ar y newidiadau hyn.

Gweld y cynllun ystafell ffitrwydd sydd ar gynnig - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Os nad ydych yn gallu gweld y cynllun, cysylltwch ag aelod o staff yng Nghanolfan Hamdden Amlwch ar 01407 830 060, a fydd yn hapus i’w egluro i chi.

Bydd yr holiadur hwn yn cau am hanner nos ar 30 Mehefin 2026.

Ewch i'r holiadur - bydd y ddolen yn agor tab newydd