Diweddariadau
Rhybudd tywydd coch ar gyfer gwyntoedd cryfion ar Ynys Môn bore Sadwrn gyda perygl i fywyd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi’r rhybuddion tywydd canlynol ar gyfer Ynys Môn dros y dyddiau nesaf:
- Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (Dydd Gwener 3pm i 3am dydd Sadwrn)
- Rhybudd tywydd melyn am law (Dydd Gwener 3pm i hanner dydd ar Dydd Sadwrn)
Rhybudd tywydd coch ar gyfer gwyntoedd cryfion ar Ynys Môn Dydd Sadwrn 3am i 11am gyda perygl i fywyd
- Rhybudd tywydd oren ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 11am i 9pm)
- Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 9pm i 6am dydd Sul)
Cadwch lygad ar wefan Met Office am ddiweddariadau rhybuddion tywydd rheolaidd.
Pont Britannia
O ganlyniad i’r rhybuddion tywydd uchod, mae’n bosib y bydd angen cau Pont Britannia am gyfnodau o amser - gall hyn gynnwys cau’n llawn ar gyfer pob cerbyd yn ystod y rhybudd tywydd coch.
Ewch i Traffig Cymru am y diweddariadau traffig yng Ngogledd Cymru.
Rydym hefyd yn rhagweld efallai y bydd angen cau rhai ffyrdd ar draws Ynys Môn am gyfnodau o amser oherwydd fod coed wedi disgyn.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales yn darparu gwybodaeth am rybuddion llifogydd a chyngor.
Cynlluniwch ymlaen llaw a teithiwch, dim ond os oes angen, yn ystod y cyfnodau yma.
Gwasanaethau'r cyngor
O ganlyniad i Storm Darragh, byddwn yn cymryd y camau diogelwch canlynol:
Canolfannau hamdden
Cau ein canolfannau hamdden yn Amlwch; Caergybi; David Hughes, Porthaethwy a Phlas Arthur, Llangefni yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Canolfannau ailgylchu gwastraff domestig Penhesgyn a Gwalchmai
Cau canolfannau ailgylchu gwastraff domestig Penhesgyn a Gwalchmai yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Llyfrgelloedd
Cau pob llyfrgell yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Oriel Môn
Cau Oriel Ynys Môn a’r caffi yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Toiledau cyhoeddus
Cau pob toiled cyhoeddus yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Parciau gwledig
Cau Parc Gwledig Morglawdd Caergybi a Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, Llangefni yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Pier
Cau Pier Biwmares a Pier San Siôr, Porthaethwy yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr).
Gatiau llifogydd ym Miwmares, Bae Trearddur a Porth Llechog
Mae’r gatiau llifogydd ym Miwmares, Bae Trearddur a Porth Llechog eisoes wedi cau. Er mwyn eich diogelwch, gofynnwn yn garedig i chi beidio ag agor y gatiau llifogydd.
Cymerwch ofal o amgylch yr arfordir.