Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Carreg Drws Doeth a Diogel


Mae trosedd ar garreg y drws yn cynnwys masnachwyr sy’n cnocio ar ddrysau ac yn gofyn i ddefnyddwyr a fydden nhw’n hoffi iddynt wneud unrhyw waith adeiladu, torri gwrychoedd, osod tarmac neu newid cwterydd etc. Yn amlach na pheidio caiff y defnyddiwr ei berswadio i dalu swm sylweddol o arian am waith o safon wael.

Yn ddieithriad bydd y masnachwyr yn diflannu, ac ni fydd modd dod o hyd iddynt. Byddant yn gadael gwaith gwael, eilradd, sydd heb ei orffen, a bydd y defnyddiwr wedi talu cannoedd neu filoedd o bunnoedd amdano.

Mae Safonau Masnach Ynys Môn yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaethau lleol i leihau’r math yma o droseddu. Er mwyn i’r fenter yma am lwyddo, rydym yn rhedeg uned ymateb brys fydd yn fodd i ni ymateb i gwynion yn gyflym ac yn effeithiol.