Mae Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn un o’r tirweddau mwyaf amrywiol, prydferth ac arbennig ym Mhrydain.
Rhai o brif nodweddion Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yw’r:
- clogwyni isel bob yn ail a thraethau cerrig
- clogwyni calchfaen serth bob yn ail a thraethau tywodlyd gwych
- twyni tywod gyda thraethau
Mae’r Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn hefyd yn gartref i oddeutu 7,000 o bobl sy’n byw mewn cymunedau creadigol a bywiog. Mae’r cymunedau hyn hefyd yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd i’r rhai sy’n dymuno ymlacio ar yr ynys neu gymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau awyr agored megis cerdded ar hyd 201km (125 milltir) llwybr yr arfordir.
Cafodd arfordir Môn ei ddynodi fel Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn 1966 a’i gadarnhau yn 1967. Fe’i dynodwyd er mwyn diogelu apêl esthetaidd ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygu amhriodol.
Dynodiad arfordirol gan mwyaf yw’r Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o 201 cilometr (125 milltir) o arfordir yr ynys ond gan gynnwys hefyd Fynydd Caergybi a Mynydd Bodafon. Mae swm sylweddol o dir arall sy’n cael ei ddiogelu gan yr Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yn gefndir i’r arfordir. Cyfanswm tir yr Tirwedd Cenedlaethol ym Môn yw 221 cilometr sgwâr (21,500 hectar) gyda thrydedd ran o’r ynys ynddi.
Caiff nifer o cynefinoedd Ynys Môn eu diogelu ymhellach trwy ddynodiadau’r DU ac Ewropeaidd oherwydd eu gwerth o ran cadwraeth natur, ac mae’r rhain yn cynnwys :
- 5 Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- 3 Ardal Diogelwch Arbennig
- 1 Warchodfa Natur Genedlaethol
- 31 o Safleoedd Gwyddonol Arbennig
- 75 o Henebion Rhestredig
Mae’r cynefinoedd hyn a ddiogelir yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt fel Llamidyddion yr Harbwr a Brith y Gors.
Yn yr Tirwedd Cenedlaethol fe geir hefyd dri darn o arfordir agored heb ei ddatblygu sydd wedi eu dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae’r dynodiadau anstatudol hyn yn ategu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan ymwneud ag oddeutu 50 km (31 milltir) o’r arfordir. Dyma’r rhannau o’r Arfordir Treftadaeth:
- Gogledd Môn 28.6 kms (17 milltir)
- Mynydd Twr 12.9 kms (8 milltir)
- Bae Aberffraw 7.7 kms (4.5 milltir)
Gwaith a gweithgareddau yn yr ardal
Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw’r cyflogwyr mwyaf yn yr Tirwedd Cenedlaethol ac mewn rhai achosion, mae’n gyfuniad o’r ddau. Mae ystod y cynnyrch lleol geir ar yr ynys yn amrywio o gaws a siocled i win. Mae llawer o’r cynnyrch lleol hefyd yn organig.
Bydd oddeutu 2 filiwn o bobl yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn gan ddenu pobl o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a hefyd ymwelwyr o dramor. Mae’r ynys yn cynnig nifer o gyfleon hamdden i’r trigolion ac i ymwelwyr, gyda’r mwyafrif yn mwynhau’r traethau tywod gwych a’r golygfeydd ysblennydd.
Rhai o’r dulliau hamddena mwyaf poblogaidd yw hwylio, pysgota, seiclo, cerdded a syrffio gwynt. Mae’r rhain oll yn rhoi pwysau ar yr Tirwedd Cenedlaethol. Ar yr un pryd, mae poblogrwydd yr Tirwedd Cenedlaethol fel lle i gynnal y fath weithgareddau yn amlwg yn cyfrannu at yr economi leol.