Mae Tîm Cyrchfan Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o fod wedi cefnogi datblygiad dau becyn addysg arloesol drwy gyllid grant a phartneriaethau cydweithredol.
Nod y pecynnau hyn yw ysbrydoli dysgu am ein tirluniau lleol, amgylcheddau morol, a threftadaeth ddiwylliannol.
Pecyn addysg Tir a Môr
Mae’r pecyn hwn yn archwilio themâu tir, afonydd a môr drwy weithgareddau hwyliog.
Mae'r pecyn wedi'i gynllunio ar gyfer Camau Cynnydd 1 i 4 (dysgwyr o 5 i 14 oed)
Mae’r pecyn wedi’i ddatblygu ar y cyd â Thîm Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Cefnogwyd y prosiect drwy Gronfa Ffyniant a Gyffredin llywodraeth y DU (UK SPF).
Ewch i becyn addysg Tir a Môr
Pecyn addysg Tirlun
Mae'r pecyn hwn yn hyrwyddo dealltwriaeth o dirweddau unigryw a gwarchodedig Cymru.
Mae'r pecyn wedi'i gynllunio ar gyfer Camau Cynnydd 3 i 4 (dysgwyr o 8 i 14 oed).
Crëwyd yr adnodd hwn mewn partneriaeth â Thirweddau Dynodedig Cymru, sy’n cynnwys y pum Tirwedd Genedlaethol a’r tri Pharc Cenedlaethol. Darparwyd y cyllid gan raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (TCLlC).
Ewch i becyn addysg Tirlun