Cyngor Sir Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy (The Dingle), Llangefni


Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.Nant y Pandy Llangefni

Gwaith i adnewyddu llwybr pren

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid grant er mwyn amnewid y llwybr pren presennol am strwythur newydd.

Bydd y llwybr newydd wedi’i wneud allan o blastig cynaliadwy wedi’i ailgylchu gan sicrhau oes llawer hirach i’r llwybr newydd o gymharu â’r llwybr presennol sydd wedi’i fwynhau gan gynifer o bobl dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Ar gau rhwng 7:30am a 5:30pm yn ystod yr wythnos

Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd angen i Nant y Pandy fod ar gau i’r cyhoedd rhwng 7:30am a 5:30pm yn ystod yr wythnos tra bydd y gwaith adeiladu yn digwydd.

Rydym yn gwerthfawrogi’r anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi i’r bobl sy’n mwynhau cerdded y safle’n rheolaidd ond bydd gosod 1,000 metr o lwybrau yn cymryd amser. Rhagwelir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn Awst 2025.  

Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt

  • Bydd angen i Nant y Pandy fod ar gau i’r cyhoedd rhwng 7:30am a 5:30pm yn ystod yr wythnos yn ystod y cyfnod adeiladu.
  • Gellir dal cael mynediad i’r safle y tu allan i’r amseroedd uchod ac ar benwythnosau drwy lwybr beicio Lôn Las Cefni a bydd ardal Coed Smyrna hefyd yn parhau i fod ar gael o’r llwybr beicio, Bydd y llwybr pren yn parhau i fod ar gau tan y bydd y prosiect wedi’i gwblhau.
  • Mae’r gorchymyn cau ar gyfer y llwybr beicio presennol yn ei le tan 20 Mehefin 2025.  
  • Bydd mapiau’n amlinellu’r cynlluniau a’r llwybrau amgen yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol; ynghyd â diweddariadau rheolaidd wrth i’r waith fynd rhagddo.
  • Ni fydd y gwaith parhaus i osod y llwybrau pren newydd yn effeithio ar y digwyddiad Park Run wythnosol a gynhelir yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.

Gwybodaeth wreiddiol yn y dudalen hon

Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Cafodd yr ardal ei gwella yn cynnwys llwybr bordau pren sy’n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gwas y neidr enfawr, hadau planhigion anferthol a choed derw wedi eu hollti i ddatgelu’r gerdd ‘Nant y Pandy’ gan y bardd lleol, Rolant o Fôn.

Mae’r llwybr bordau pren yn caniatau i bawb fynd i sawl rhan o warchodfa. Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.

Coed derw digoes, ynn a cheirios gwyllt sydd i’w gweld yn bennaf mewn rhannau o’r coetir gyda sioe ysblennydd o glychau’r gog yn y gwanwyn. Mae rhannau eraill, coed sycamorwydden ac ambell i onnen sydd i’w gweld gyda phentwr o redyn a mwsog a blodau ‘r goedwig megis blodau’r gwynt. Plannwyd castanwydd, ffawydd a phinwydd gwyllt yng Nghoed Plas a gwelir yno garped o gennin Pedr yn y gwanwyn.

Mae llyffantod a madfallod yn byw yn y mannau gwlyb ac mae gwiberod a genau-goegiaid yn byw yn y coetir sychach. Ceir yma sawl math o löyn byw megis llwyd bach y ddôl a brith y coed a gwyfynod hefyd. Yn ogystal, gwelir gweision y neidr a mursennod, pryfed hofran, gwenyn a gwenyn meirch, chwilod, gwlithod a malwod, pryfed cop, pryfed lludw a nifer o greaduriaid bychain eraill.

Mae adar i’w gweld yma drwy’r flwyddyn: mae’r titw tomos las a’r titw mawr yn nythu yn y coed a’r lâr ddwr hithau yn nythu wrth y dŵr; mae’r dryw a’r siglen lwyd yn enghreifftiau o’r adar bach sydd i’w gweld yn aml o’r llwybr bordiau pren a gwelir adar mwy megis y gigfran, y boncath a’r crëyr yn hedfan uwchben. Mae modd gweld glas y dorlan hefyd yn fflach o las trydanol neu drochwr yn siglo i fyny ac i lawr ar hyd yr afon. Gellir clywed y dylluan frech a’i gweld yn aml hefyd yn y coetir yn y nos.

Gellir gweld pysgod megis y brithyll, y cochiad a’r pysgodyn garw yn y Llyn Pwmp ac o bryd i’w gilydd daw siwin a’r slywen i ymweld.

Mae mamaliaid yn fwy anodd o lawer i’w gweld. Efallai na fydd modd gweld y llwynog, dim ond clywed ei arogl ar draws llwybr. Gellir gweld olion y llygoden goch a llygoden y maes yn y darnau o gnau cyll sy’n cael eu gadael ganddynt. Wrth iddi dywyllu, mae modd gweld 8 allan o’r 16 math o ystlum sydd ym Mhrydain.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.