Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Grant Awyr Dywyll


Funded by UK government logo

Y cynllun

Mae Tîm Cyrchfan Cyngor Sir Ynys Môn yn barod i lansio cynllun grant cyffrous ar draws yr ynys fydd yn helpu cymunedau, busnesau preifat, y sector cyhoeddus a sefydliadau yn y trydydd sector i reoli llygredd golau sy’n achosi difrod, a gwella llesiant eu cymunedau a bywyd gwyllt.

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi ymrwymiad y cyngor i weithio at gyflawni statws carbon sero net erbyn 2030, yn unol ag addewidion a wnaed yng Nghynllun y Cyngor 2023 i 2028.  Llwyddwyd i ddarparu’r cynllun grant hwn ar ôl derbyn gwerth £360,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredinol Llywodraeth y DU, sy’n darparu 100% o’r cyllid ar gyfer bob prosiect o fewn y cynllun grant.

  • Bydd 75% (£270,000.00) o’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu’n uniongyrchol er mwyn targedu’r eiddo gwaethaf a’r rhai sydd wedi eu hadnabod ymlaen llaw fel rhai sy’n cyfrannu at lygredd golau amhriodol.
  • Bydd 25% (£90,000.00) ar gael ar gyfer y cynlluniau ôl -osod llai megis cymunedau, busnesau preifat a’r trydydd sector. Bydd hyn yn cael ei weinyddu gan gynllun grant awyr dywyll. 

Mae llygredd golau yn niweidiol i iechyd a lles

Mae 98% o boblogaeth y DU yn byw dan awyrau sydd wedi’u llygru gan olau. Mae ymchwil ac astudiaethau newydd yn profi bod llygredd golau yn niweidiol i iechyd a llesiant, sy’n arwain ar faterion megis insomnia, pwysau gwaed uchel a salwch hormonaidd megis diabetes.

Dim ond yn ddiweddar mae’r materion iechyd difrifol hyn wedi amlygu eu hunain. Mae llygredd golau hefyd yn cael effaith negyddol ar ein bioamrywiaeth, gan fod tros 60% o’r holl rywogaethau angen tywyllwch naturiol i oroesi.

Ymrwymiad y cyngor

Mae’r cynllun grant hwn yn dangos ymrwymiad y cyngor i wella effeithiolrwydd ynni, lleihau costau, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â llygredd golau, a diogelu awyr y nos.

Goleuadau cyfeillgar i'r awyr dywyll 

Bydd cymunedau, busnesau preifat, y sector cyhoeddus a sefydliadau yn y trydydd sector yn gallu cyflwyno ffurflen gais i Dîm Cyrchfan y cyngor er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer ôl-osod eu goleuadau.

Bydd y goleuadau hyn yn cael eu disodli gan oleuadau o’r ansawdd gorau, ac yn cael eu ffitio er mwyn sicrhau eu bod yn ‘gyfeillgar i awyrau tywyll’ ac yn cyflawni eu pwrpas.

Nid yw ‘cyfeillgar i awyrau tywyll’ yn golygu dim golau o gwbl, ond yn hytrach, mae’n golygu ein bod yn defnyddio’r nifer priodol o oleuadau, ar yr amser cywir ac yn y lle cywir.

Gwneud cais am y grant

Rydym wedi gwahodd cymunedau, busnesau preifat a sefydliadau yn y trydydd sector Môn i gysylltu â ni er mwyn mynegi eu diddordeb yn y grant hwn cyn datblygu cynigion ar gyfer prosiectau.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb oedd 8 Mawrth 2024.

Cyn bo hir byddwn yn cysylltu â phawb a fynegodd ddiddordeb i ddechrau'r broses ymgeisio.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch ag Wiliam Stockwell, yr Uwch Swyddog Prosiect (Cyrchfan) drwy wiliamstockwell2@ynysmon.llyw.cymru

LevelUp-CY

Logo for the Anglesey Area of Outstanding Natural Beauty