Cyngor Sir Ynys Môn

Cronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) yr AHNE


Cafodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ei sefydlu mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn 2001.

Ei phrif nod yw cefnogi prosiectau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol o fewn yr AHNE, a’r rheini’n gynaliadwy eu natur.

Caiff y gronfa ei chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i gweinyddir yn lleol gan dîm AHNE Ynys Môn.

 I gael rhagor o fanylion gwelwch y taflenni gwybodaeth a’r ffurflenni cais i’w lawrlwytho isod.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy - CDC yn gyfle ardderchog i geisio am gymhorthdal grant ar gyfer prosiectau amgylcheddol sy’n arloesol a chynaliadwy, ac sy’n rhai y bydd cymunedau lleol yn ymwneud â hwy mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae AHNE yn dirweddoedd sy’n genedlaethol bwysig, wedi eu dynodi oherwydd eu harddwch golygfaol ysblennydd.

  • grwpiau cymunedol, gwirfoddol neu bartneriaethau
  • cynghorau cymuned
  • awdurdodau lleol
  • y sector breifat (am brosiectau sydd o ddiddordeb cyhoeddus ehangach)
  • unigolion (am brosiectau sydd o ddiddordeb cyhoeddus ehangach)

Prosiectau sy’n cwrdd ag amcanion y cynllun a’r AHNE, sef:

  • cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
  • hybu mathau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd mewn AHNE
  • hybu lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol
  • hybu’r cyfle i gael mwynhad tawel yn yr AHNE
    • bydd y cynllun yn darparu grantiau prosiectau, grantiau rheolaeth i helpu tuag at gostau staff a grantiau datblygu i fod yn gatalydd ar gyfer rhyw weithgaredd newydd neu bartneriaethau
    • bydd hyd at 75% ar gael ar gyfer prosiectau cymwys
    • disgwylir i ymgeiswyr dalu o leiaf 25% o gyfanswm cost y prosiect, naill ai o’u cyllid eu hunain neu o gyllid o gyfeiriad arall (megis cyllid grantiau eraill, cyfraniadau mewn nwyddau/gwasanaethau, Cyllid Ewropeaidd megis Amcan 1 neu’r Loteri)
    • bydd taliadau’n cael eu gwneud, fel arfer, ar ôl i’r prosiect gael ei gyflawni
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.