Cyngor Sir Ynys Môn

Hawliau lles a sefydliadau eraill sy'n gallu eich helpu chi


Mae Tîm Hawliau Lles Cyngor Ynys Môn wedi ei leoli yng Nghanolfan J E O’Toole, Caergybi sy’n darparu cyngor, cefnogaeth a chynrychiolaeth ar ystod o faterion budd-dal lles.

Asiantaethau eraill fydd yn gallu eich helpu.

Mae Gwasanaeth Hawliau Lles yn rhoi cyngor a chynrychiolaeth annibynnol a chyfrinachol yn rhad ac am ddim ynghylch budd-daliadau, credydau treth, a chyfraith cyflogaeth ar gyfer pobl sy’n byw yn y sir.

Rhif Ffôn: 01407 760208

Canolfan J. E. O’Toole
Sgwâr Trearddur
Caergybi
Ynys Môn
LL65 1NB

Mae Cyngor Hawliau Lles ar gael drwy apwyntiad yng Nghanolfan O’Toole o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Yn ogystal, rydym yn cynnal cymorthfeydd drwy apwyntiad yn unig yn:

  • Llangefni ym Mhrif Swyddfeydd y Cyngor ar ddydd Mawrth 9.30am – 5pm
  • Amlwch ym Maes William Williams ar ddydd Iau 9:30am – 5pm

Ffoniwch 01407 760208 os gwelwch yn dda i drefnu apwyntiad yn unrhyw un o’r lleoliadau uchod.

Gellir trefnu apwyntiadau dros y ffôn hefyd am gyngor ac ymweliadau cartref a chymorth gyda ffurflenni cais (os ar gael) ar gyfer y rheiny sydd ag anableddau neu sy’n sâl ac sydd ddim yn gallu teithio i’n canolfan neu un o’r gwasanaethau allgyrraedd.

Mae ymgynghorydd ar gael drwy apwyntiad i ddod i’ch digwyddiadau cymunedol neu gyfarfodydd grŵp i siarad ac i rannu gwybodaeth am y budd-daliadau cyfredol.

CAB - wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a chyngor ar ystod o bynciau; popeth o reoli dyled i gyngor cyfreithiol.