Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) i ganiatáu darparu cymorth tuag at liniaduron neu dabledi os nad yw’r ysgol yn gallu rhoi offer ar fenthyg i’r teulu.
Yn awr, gellir gwneud dyfarniadau tuag at:
- gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- dillad chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) Sgowtiaid, Geidiaid, Cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
- offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau ysgrifennu
- offer arbenigol pan fydd gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn, megis dylunio a thechnoleg
- offer ar gyfer teithiau tu allan i oriau ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw
- gliniaduron a thabledi (os nad yw’r ysgol yn gallu benthyg offer)
Y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i dderbyn y taliad yw bod y rhiant / gwarcheidwad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, sef derbyn un o’r budd-daliadau a ganlyn neu dderbyn cymorth dan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar incwm)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm)
- Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes gennych hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, fel yr aseswyd gan CThEM, yn fwy na £16,190.
- Credyd Pensiwn (Gwarant)
- Credyd Cynhwysol, ar yr amod nad yw incwm a enillir net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400
Fodd bynnag, noder bod cynllun diogelu trosiannol ar waith ar hyn o bryd ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Mae hyn yn caniatáu i ddyfarniad prydau ysgol am ddim barhau os oedd y rhieni/gwarcheidwad yn derbyn y budd-daliadau angenrheidiol ond eu bod wedi cael eu symud oddi ar y budd-daliadau hynny yn ddiweddarach.
Yn anffodus, nid yw plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim dan y cynllun diogelu trosiannol yn gymwys ar gyfer y taliad hwn.
Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf, cysylltwch â’r gwasanaeth budd-daliadau ar 01248 750 057 i gael cyngor pellach.
Bydd eich plentyn yn gallu cael Grant Datblygu Disgyblion os yn mis Medi 2022 mae nhw yn:
- dosbarth derbyn ysgolion gynradd a gynhelir– oedran ysgol gorfodol
- Flynyddoedd 1,2,3,4,5 a 6 mewn ysgolion gynradd a gynhelir
- Flynyddoed 7,8,9,10 a 11 mewn ysgolion uwchardd a gynhelir
- disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio yn yr grwpiau blwyddyn uchod
Cyllid ar gael
Mae’r cyllid ar gael hefyd i bob plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn gofal.
Mae cyllid o hyd at £225 ar gael ar gyfer pob dysgwr cymwys, ac eithrio dysgwyr ym Mlwyddyn 7. Bydd gan ddysgwyr cymwys ym Mlwyddyn 7 hawl i hyd at £300.
Sut i hawlio’r taliad
Yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd
Os yw eich plentyn/plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd (ac nid y cynllun diogelu trosiannol – gweler uchod) ac os ydych yn derbyn y taliad yn lle prydau ysgol am ddim yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, nid oes angen i chi wneud dim.
Mae’r wybodaeth angenrheidiol i wneud y taliad gennym.
Rydym yn ceisio gwneud taliadau cyn gynted â phosibl. Gohiriwyd rhai taliadau diweddar ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ddim yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd
Os nad yw eich plentyn/plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd ac os nad ydych yn derbyn y taliad yn lle prydau ysgol am ddim, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais i dderbyn y taliad.
Mae’r ffurflen ar gael isod. Anfonwch ffurflenni wedi'u llenwi at budd-dal@ynysmon.llyw.cymru
Unwaith eto, rydym yn anelu i wneud y taliad o fewn mis o dderbyn y cais. Os na fyddwch yn derbyn y taliad erbyn diwedd y cyfnod hwn, yna cysylltwch â’r gwasanaeth budd-daliadau ar 01248 750 057.
Nodwch fod y cynllun hwn ar agor tan 30 Mehefin 2023 yn unig ac ni wneir unrhyw daliadau ar ôl y dyddiad hwn.
Nodwch na fydd modd gwneud unrhyw ddyfarniad pellach mewn perthynas â phlentyn os cafodd dyfarniad ei wneud yn barod yn ystod y flwyddyn ysgol hon.