Mae'r cynllun hwn bellach wedi cau i geisiadau newydd.
Gwybodaeth wreiddiol
Darllenwch y dudalen hon yn ofalus.
Mae ffurflen gais ar-lein ar ddiwedd y wybodaeth.
Nifer uchel iawn o geisiadau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Chwefror 2022
Gofynnwn yn garedig i chi beidio cysylltu gyda’r tîm budd-daliadau am ddiweddariad ar ddyddiad talu. Bydd pob taliad yn cael ei wneud cyn diwedd Mawrth 2022
Cefndir
Fel rhan o becyn cymorth gwerth dros £50 miliwn er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod dros £38 miliwn ar gael drwy gynllun cymorth tanwydd gaeaf.
Gall cartrefi sy’n gymwys hawlio taliad untro gan y Cyngor er mwyn darparu cymorth iddynt wrth geisio talu biliau tanwydd y gaeaf.
Mae swm y taliad wedi cynyddu i £200.
Os ydych eisoes wedi gwneud eich cais neu wedi cael eich taliad o £100, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn anfon y taliad ychwanegol o £100 atoch cyn diwedd mis Ebrill.
Bydd y taliad ar gael i holl gartrefi cymwys pa bynnag ffordd y byddwch yn talu am eich tanwydd boed hynny drwy fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bob chwarter.
Cymhwystra
Mae’r cynllun ar agor i gartrefi lle mae un aelod o’r cartref sydd o oedran gwaith wedi derbyn budd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm (unrhyw dro rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credydau Treth Gwaith
Rhaid i chi, eich partner neu’r ddau ohonoch fod yn gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd yn eich eiddo.
Rhaid i chi neu eich partner beidio â bod wedi derbyn taliad o dan y cynllun o'r blaen.
Sut i hawlio
Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at gartrefi cymwys sy’n derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor ar hyn o bryd er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol ar gyfer gallu cefnogi’r cais ynghyd â chael manylion er mwyn gallu hwyluso’r taliad.
Fel arall, os nad ydych yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor ar hyn o bryd, ond rydych yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys a nodir uchod, gallwch gyflwyno hawliad ar-lein.
Bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol arnoch i wneud cais.
Mae'r cynllun hwn bellach wedi cau i geisiadau newydd
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Chwefror 2022
Gofynnwn yn garedig i chi beidio cysylltu gyda’r tîm budd-daliadau am ddiweddariad ar ddyddiad talu. Bydd pob taliad yn cael ei wneud cyn diwedd Mawrth 2022.
Cynnydd taliad
Mae swm y taliad wedi cynyddu i £200. Y dyddiad cau nawr yw 28 Chwefror.
Os ydych eisoes wedi gwneud eich cais neu wedi cael eich taliad o £100, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, Byddwn yn anfon y taliad ychwanegol o £100 atoch cyn diwedd mis Ebrill.
Os nad ydych chi'n gymwys
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, neu’n parhau i ddioddef caledi ariannol difrifol, efallai eich bod yn dymuno cyflwyno hawliad i’r Gronfa Cymorth Dewisol.
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol a bod diffyg yn y cymorth rydych yn ei dderbyn tuag at eich rhent, efallai yr hoffech wneud cais am Daliad Tai Dewisol hefyd.