Mae Cronfa’r Degwm yn gronfa elusennol annibynnol.
Sefydlwyd Cronfa’r Degwm gydag arian ag asedau yn deillio o ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Rhannwyd yr asedau hyn yn deg ymhlith y cyn gynghorau sir yng Nghymru, ac yna cawsant eu rhannu ymhellach rhwng yr awdurdodau unedol yng Nghymru wrth eu ffurfio ym 1996.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sefydlu ymddiriedolaeth i reoli’r gronfa ar Ynys Môn. Mae pwyllgor yn y cyngor, sy’n dwyn yr enw 'Y Pwyllgor Gwaith', yn gweithredu fel yr unig ymddiriedolwr.
Faint o arian sydd ar gael
Bydd ceisiadau hyd at uchafswm o £2,500 yn cael eu hystyried.
Pwy all ymgeisio
Gall grwpiau, clybiau a sefydliadau ar Ynys Môn ymgeisio am arian i’w helpu gyda phrosiectau gwahanol.
Gellir defnyddio’r gronfa ar gyfer pethau megis:
- cefnogi celfyddydau a llenyddiaeth Gymreig
- sefydliadau sy’n helpu pobl sy’n wynebu trafferthion ariannol, ond heb ddarparu benthyciadau neu grantiau ar gyfer yr unigolion hynny
- cefnogi gweithgareddau crefyddol
- sefydliadau sy’n darparu cymorth i bobl sy’n wynebu salwch
- sefydliadau sy’n helpu i gefnogi pobl hŷn sy’n byw yn ein cymunedau
- gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar Ynys Môn
- prosiectau’n ymwneud â hanes, adeiladau, gwyddoniaeth neu natur sy’n berthnasol i Ynys Môn
- ymchwil feddygol neu gymdeithasol
- sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n ddall neu pobl ag amhariad ar y golwg
Gallwch ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio'r gronfa yn yr atodiad ar y dudalen hon.
Pwy sydd ddim yn gymwys i ymgeisio
Fel rheol, ni fyddwch yn derbyn grant os:
- rydych eisoes wedi derbyn cymorth gan adran arall o’r cyngor
- rydych eisoes wedi cael arian o’r gronfa hon yn ystod yr un flwyddyn ariannol
- rydych yn unigolyn
- mae eich prosiect ar gyfer plaid wleidyddol
Sut ydyn ni’n dod i benderfyniad
Unwaith fydd y dyddiad ar gyfer ceisiadau wedi cau, bydd bob cais yn cael ei asesu gan ddeilydd portffolio Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer:
- cyllid, busnes corfforaethol a phrofiad cwmser
- addysg a’r iaith Gymraeg
Ar gyfer 2026, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno mai £25,000 fydd ar gael ac mai’r uchafswm grant a ddyfernir fydd £2,500.
Sut i ymgeisio
Rhaid i chi lenwi’r ffurflen ymgeisio ar-lein.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad.
Weithiau, gallwn ond rhoi’r grant i chi ar ôl i chi ddangos tystiolaeth, fel derbyniadau neu anfonebau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau a'r amodau ar gyfer y gronfa yn yr atodiad ar y dudalen hon.
Dyddiadau cau
Mae ceisiadau’n cau ar 12 Mehefin 2026.
Dylech gael gwybod os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus cyn pen deufis ar ôl y dyddiad cau.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os byddwch yn llwyddiannus
Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych fod y grant wedi ei gymeradwyo.
Telir yr arian drwy drosglwyddiad banc BACS.
Rhaid dangos datganiad banc neu slip talu-i-mewn yn enw’ch sefydliad.
Os byddwch yn derbyn arian, rhaid crybwyll cymorth gan Gyngor Sir Ynys Môn mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddus y byddwch yn ei greu.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd yn annog sefydliadau i ddarparu gwasanaethau’n Gymraeg a Saesneg.
Os na fyddwch yn llwyddiannus
Byddwch yn derbyn neges e-bost neu lythyr.
Ni allwch apelio’r penderfyniad.
Fe fydd y dogfennau yn agor mewn tab newydd