Am Gronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru
Cronfa grantiau bach i sefydliadau trydydd sector yw Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru. Mae’n cefnogi prosiectau sy’n cryfhau cydlyniant cymunedol ac yn helpu i fynd i’r afael â thensiynau lleol.
Mae grantiau rhwng £500 a £5,000 ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn dod â chymunedau at ei gilydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau neu ddeunyddiau sy’n annog cydlyniant cymunedol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.
Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru.
Pecyn cais
I gael pecyn cais neu am unrhyw ymholiadau ynghylch y grant, anfonwch e-bost at y Tîm Cydlyniant Cymunedol cydlyniantcymunedol@ynysmon.llyw.cymru
Sylwch:
- Dim ond un cais y gall pob grŵp ei gyflwyno
- Anogir sefydliadau i gydweithio a chyflwyno ceisiadau ar y cyd
- Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u cwblhau at y cyfeiriad e-bost uchod erbyn dim hwyrach na 27 Mai 2026.
Meini prawf cymhwysedd
Er mwyn gwneud cais, rhaid i’ch sefydliad:
- Fod yn sefydliad gwirfoddol neu’n grŵp cymunedol sefydledig ac â chyfansoddiad
- Fod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad, neu
- Weithio gyda sefydliad noddi a all dderbyn cyllid ar eich rhan
Ni wneir taliadau i unigolion, ac ni dderbynnir ceisiadau gan unigolion.
Amcanion y cais
Rhaid i brosiectau gyfrannu at un neu ragor o’r canlynol:
- Hyrwyddo ymgyrchoedd
- Herio camsyniadau
- Creu mannau diogel
- Rhannu negeseuon cadarnhaol
- Dathlu amrywiaeth
Dylai ceisiadau hefyd gyd-fynd â deddfwriaeth a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
- Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol
- Cenedl Noddfa
- Cymraeg 2050
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- Cynllun Gweithredu LHDTC+