Cynllun Grantiau Bach 2026 i 2027
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Gorffennaf 2026.
Wrth ystyried cais, rhaid i’r awdurdod lleol wirio bod yr ymgeisydd yn gymwys ac yn bodloni’r meini prawf isod.
Rhaid i’r ymgeisydd:
- dangos bod galw da am ofal plant. Mae hyn yn cynnwys:
-
- gwarchodwyr plant
- darparwyr preifat a gwirfoddol
- lleoliadau sy’n cynnig gofal plant drwy’r dydd
- gofal cofleidiol
- cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau
- clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Os yw’n ddarparwr newydd, rhaid iddo gadarnhau’n ysgrifenedig y bydd yn cofrestru cyn gynted â phosibl
- Os nad yw wedi cofrestru o fewn 6 mis i gymeradwyo’r grant, gall yr awdurdod lleol adennill yr arian
- esbonio sut bydd y cyllid yn helpu’r lleoliad a’r plant
- cytuno i ddarparu gofal plant am o leiaf 5 mlynedd ar ôl y taliad grant olaf
- Os bydd yn rhoi’r gorau i gynnig lleoedd, neu’n derbyn yn rheolaidd blant sy’n talu’n breifat yn lle’r rhai a ariennir gan Lywodraeth Cymru, efallai y bydd yn rhaid iddo ad-dalu rhywfaint neu’r grant cyfan
- dangos bod ganddo ddefnydd diogel o’r adeilad am o leiaf 5 mlynedd
- Os oes llai na 5 mlynedd ar ôl ar y brydles, gellir dal i ystyried y cais os yw’r landlord yn bwriadu ei hadnewyddu
- cydnabod y cyllid mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo a roddir i rieni
Y swm mwyaf sydd ar gael i unrhyw leoliad mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol
- Gofalwyr plant wedi'u cofrestru hyd at 10 lle: £7,500
- Darparwyr gofal plant wedi'u cofrestru ar gyfer hyd at 15 lle: £10,000
- Darparwyr gofal plant wedi'u cofrestru ar gyfer 16 i 29 lle: £15,000
- Darparwyr gofal plant wedi'u cofrestru ar gyfer 30 neu fwy o leoedd: £20,000
Amcanion a blaenoriaethau
Mae grantiau bach yn canolbwyntio ar y meysydd isod. Nid ydynt mewn trefn blaenoriaeth.
Rydym yn rhoi blaenoriaeth i leoliadau sy’n:
- cefnogi Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yr awdurdod lleol a’i gynlluniau gweithredu blynyddol
- darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg, neu’n helpu i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- cefnogi gwasanaethau integredig, er enghraifft:
- ar safleoedd ysgolion
- mewn adeiladau cymunedol
- mewn hybiau iechyd
- darparu:
- y Cynnig Gofal Plant
- Dechrau’n Deg
- lleoedd Dysgu Sylfaenol
- darparu gofal plant y tu allan i oriau ysgol a gwella cyfleoedd chwarae
- cynnig gofal plant drwy’r diwrnod llawn, yn ystod tymor ysgol ac yn ystod y gwyliau, i gefnogi teuluoedd drwy’r flwyddyn
- yn lleoliadau neu’n hybiau Dechrau’n Deg presennol (mae grantiau bach ar gael iddynt hefyd)
- cefnogi plant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Gwneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Gorffennaf 2026.
Telerau ac amodau